Austin
| Austin | |
|---|---|
| Lleoliad o fewn Swydd Travis, Swydd Williamson, Swydd Hays a Texas | |
| Gwlad | Unol Daleithiau America |
| Ardal | Texas |
| Llywodraeth | |
| Awdurdod Rhanbarthol | Cyngor Dinas Austin |
| Maer | Lee Leffingwell |
| Daearyddiaeth | |
| Arwynebedd | 704 km² |
| Uchder | 149 m |
| Demograffeg | |
| Poblogaeth Cyfrifiad | 790,390 (Cyfrifiad 2010) |
| Dwysedd Poblogaeth | 1024.4 /km2 |
| Metro | 5,867,489 |
| Gwybodaeth Bellach | |
| Cylchfa Amser | CST (UTC-6) |
| Cod Post | 78701-78705, 78708-78739, 78741-78742, 78744-78769 |
| Gwefan | http://www.austintexas.gov |
Austin yw prifddinas y dalaith Americanaidd, Texas, Unol Daleithiau. Dyma yw'r bedwaredd ddinas fwyaf yn Texas a'r unfed ar ddeg ddinas fwyaf yn yr Unol Daleithiau. Yn ogystal â hyn, Austin oedd y drydedd ddinas a ehangodd gyflymaf yn y wlad rhwng 2000 a 2006. Mae gan Austin boblogaeth o 790,390. Y ddinas yw canolbwynt diwylliannol ac economaidd yr ardal metropolitanaidd Austin–Round Rock gyda phoblogaeth o tua 1.6 miliwn o bobl.
Sefydlwyd yr ardal yn ystod y 1830au ar lannau'r Afon Colorado gan ymgartrefwyr gwyn, a alwodd y pentref yn Waterloo. Ym 1839, dewiswyd Waterloo fel prif ddinas Gweriniaeth Texas a oedd newydd gael ei hannibyniaeth. Ail-enwyd y ddinas yn Austin ar ôl Stephen F. Austin. Tyfodd y ddinas trwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a daeth yn ganolfan ar gyfer y llywodraeth ac addysg wrth i Gapitol Talaith Texas a Phrifysgol Texas gael eu sefydlu yno. Wedi cyfnod o ddiffyg twf ar ôl y Dirwasgiad Mawr parhaodd Austin ei datblygiad i fod yn ddinas a oedd yn ganolbwynt technoleg a busnes.
Gefeilldrefi Austin [golygu]
| Gwlad | Dinas | Blwyddyn o bartneriaeth |
|---|---|---|
| Adelaide | 1983 | |
| Angers | 2011 | |
| Koblenz | 1991 | |
| Lima | 1981 | |
| Maseru | 1978 | |
| Ōita | 1990 | |
| Saltillo | 1968 | |
| Orlu | 2000 | |
| Gwangmyeong | 2001 | |
| Xishuangbanna | 1997 | |
| Antalya | 2009 |
Dolenni Allanol [golygu]
- (Saesneg) Gwefan Dinas San Antonio