Gillian Elisa

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gillian Elisa
Ganwyd (1953-08-10) Awst 10, 1953 (age 59)
Baner Cymru Cymru, Caerfyrddin
Galwedigaeth Actores, digrifwraig, cantores
Gwefan gillianelisa.co.uk

Actores, digrifwraig a chantores Cymreig yw Gillian Elisa (ganwyd 10 Awst 1953).

Ganwyd Elisa yng Nghaerfyrddin a magwyd yn Llanbedr Pont Steffan. Mynychodd Goleg Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd.[1] Caiff ei hadnabod fel Sabrina ar opera sebon Pobol y Cwm, rôl y mae wedi'i chwarae ers y saithdegau, mae hefyd yn enwog am y cymeriad Mrs OTT ar raglenni Noson Lawen.

Gan weithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf, mae wedi ymddangos mewn nifer o raglenni S4C ond mae hefyd wedi actio a pherfformio yn y Saesneg gan gynnwys yng Ngŵyl Caeredin.

Fel cantores, mae wedi rhyddhau sawl albwm yn ogystal â chyfrannu at recordiadau eraill.

Cynnwys

Disgograffi [golygu]

  • Rhywbeth yn y Glas
  • Haul ar Nos Hir (Sain)
  • Lawr y Lein, Gillian Elisa a'i Ffrindiau, Mehefin 2006 (Sain)

Llyfryddiaeth [golygu]

  • Gillian Elisa (Tachwedd 2007). Cyfres y Cewri: 32. Hyd yn Hyn. Caernarfon: Gwasg Gwynedd. ISBN 9780860742432

Cyfeiriadau [golygu]

Dolenni Allanol [golygu]

Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.