Gaynor Morgan Rees

Oddi ar Wicipedia
Gaynor Morgan Rees
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata

Actores o Gymraes yw Gaynor Morgan Rees. Daeth i amlygrwydd cenedlaethol am ei rhan fel Diana, merch Twm Twm (Ryan Davies) yn y gyfres comedi boblogaidd Fo a Fe, a ddarlledwyd ar BBC Cymru o 1972 hyd 1977.

Yn enedigol o Abercwmboi, Cwm Cynon yn y de, symudodd i weithio i'r BBC ym Mangor yn 1962 ar ôl graddio o'r coleg drama ac mae hi wedi byw yn y gogledd byth ers hynny; ers 1984 mae hi'n byw yn nhref Dinbych lle mae hi'n weithgar gyda Theatr Twm o'r Nant.[1]

Mae'n gynghorydd Plaid Cymru ar Gyngor Tref Dinbych.[2]

Teledu a ffilm[golygu | golygu cod]

  • Fo a Fe (BBC Cymru, Mawrth 1972 - Ionawr 1977), fel Diana
  • Off to Philadelphia in the Morning (1978, teledu), fel Anne Parry
  • Calon Gaeth (2006), fel Nano
  • Arwyr (2008, teledu) fel Megan

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. S4C
  2.  Cyng - Cllr Gaynor Morgan Rees. Cyngor Tref Dinbych. Adalwyd ar 28 Rhagfyr 2020.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.