William Thomas (actor)

Oddi ar Wicipedia
William Thomas
Ganwyd1947 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, actor ffilm, actor teledu Edit this on Wikidata

Actor o Gymro yw William Thomas (ganwyd tua 1947), adwaenid hefyd fel William Huw-Thomas, sydd wedi ymddangos mewn nifer o ffilmiau a chyfresi teledu.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganwyd a magwyd Thomas yng Nghlydach, Cwm Tawe. Mae Thomas yn briod a'r actores Mair Rowlands ac mae ganddynt ddau fab. Mae'r teulu yn byw ym Mhenarth.[1]

Roedd yn aelod o Theatr Ieuenctid Sir Forgannwg cyn ennill lle yn Ysgol Ddrama y Guildhall yn Llundain. Yn 1971 aeth i weithio yn Theatr y Mermaid am naw mis, yn dirprwyo ar gyfer rhannau mewn sawl drama. Tra oedd yno, gweithiodd ar bantomeim gwyddoniaeth i blant, The Molecule Club. Yna aeth i actio mewn theatrau yn Coventry a Leicester lle weithiodd gyda pobl fel Simon Cadell a John Hurt.[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ymddangosodd gyntaf ar deledu yn 1974 a mae wedi perfformio mewn nifer fawr o raglenni Cymraeg a Saesneg ers hynny. Ar deledu Seisnig mae ei rhannau mwy adnabyddus yn cynnwys dwy bennod o Doctor Who, Only Fools and Horses a Midsomer Murders.

Mae'n fwyaf adnabyddus ar deledu Cymraeg fel un o gast craidd y gyfres gomedi o'r 1980au, Torri Gwynt. Roedd ganddo brif rannau yng nghyfresi drama Con Passionate, Y Pris ac Alys.

Yn 2011 ymddangosodd fel y cymeriad Geraint Cooper yn Torchwood: Miracle Day ar ôl chwarae'r cymeriad mewn rhan fach yn y gyfres yn 2008.[3]

Ffilmyddiaeth[golygu | golygu cod]

Teledu[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
1974 Antony and Cleopatra Soldier
1981 Grange Hill Mr. Morgan Pennod: #4.18
1981 The Life and Times of David Lloyd George William George Pennod: Don't try, Do It - Footnotes of History
1983-1988 Torri Gwynt Cymeriadau amrywiol
1984 Night Beat News Greg Phillips
1984 The Magnificent Evans Probert Pennod: #1.1 - #1.6
1984 The District Nurse Gryp Pennod: #2.1, #2.2
1987 Knights of God Will Pennod: #1.1
1988 Ballroom Dick
1988 Doctor Who Martin pennod: Remembrance of the Daleks
1989 Only Fools and Horses Barman Pennod: Yuppy Love
1989 After the War Mr. Llewellyn Cyfres deledu fer
1990 Screen One Cyril Pennod: Sticky Wickets
1991 We Are Seven Matthew Thomas Penodau: #1.2 - #1.6 & #2.2 - #2.7
1992 Forever Green Michael Powell Pennod: #3.3
1996 Trip Trap Dr. Barclay
1997 A Mind to Kill Pub Guvnor Pennod: Game Plan
1998 Satellite City Vicar Pennod: Chronicle of a Death Foretold
1999 Rhinoceros Constable
2000 Longitude Arthur Mason
2000 Cupid & Cate Paul
2002 Fun at the Funeral Parlour Ivor Thomas
2002 A Mind to Kill John Beckwith Pennod: The Little House in the Forest
2003 Grass Eric Penodau: #1.3 - #1.8
2005 Con Passionate Glyn
2004–2005 Pobol y Cwm Eric Miller Penodau: To Tea Ysgol, OB Cafe
2005 Marigold Milkman
2005 Doctor Who Mr. Cleaver Pennod: Boom Town
2006 Belonging William James Penodau: #7.3, #7.4, #7.5
2007 Midsomer Murders Bryn Williams Pennod: Death and Dust
2007 Gavin & Stacey Father Chris Cyfres Un
2007 Y Pris Davey Eddy Penodau: Y Dechre, Y Fwled Gynta

2008 Belonging Will Pennod: #9.8
2008; 2011 Torchwood Geraint Cooper Pennod: Something Borrowed, The New World, The Categories of Life
2009 Ar Y Tracs Carwyn Cymeriad rheolaidd

2010 Gavin & Stacey Father Chris Cyfres Tri
2010 Alys William Cymeriad Rheolaidd

Ffilm[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Teitl Rhan
1978 Casey's Shadow Weight Scales Jockey Room
1996 Darklands Detective Jarvis
1997 Twin Town Bryn Cartwright
1999 Catfish in Black Bean Sauce Douglas
1999 Solomon and Gaenor Idris Rees
2000 Edith's Finger Vicar
2000 Blue Kenny Dennis Simms
2000 The Miracle Maker (llais)
2000 House! Clipboard
2001 Overland Parry Thomas
2003 Y Mabinogi Hefeydd (llais)
2006 January 2nd Tom
2007 The Baker Alun
2008 Freebird Welsh Farmer
2010 Mr. Nice Mr Marks
2010 Ar Y Tracs Carwyn

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Real life husband and wife play TV happy families (en) , WalesOnline, 12 Ionawr 2008. Cyrchwyd ar 13 Chwefror 2016.
  2. One Del of a role! (en) , Penarth Times, 5 Mai 2006.
  3. "Spotlight profile of William Thomas". Spotlight. Cyrchwyd 26 January 2011.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]