Ruth Jones
| Ruth Jones | |
|---|---|
| Ganwyd | Ionawr Expression error: Unrecognized punctuation character "{"., 1967 Pen-y-bont ar Ogwr, Morgannwg, Cymru |
| Cenedligrwydd | Cymreig |
| Galwedigaeth | Actores, ysgrifennwr, Cantores, comedïwr, Cyflwynydd radio |
| Gweithgar | 1991–presennol |
Actores o Gymru sy'n adnabyddus am gyd-ysgrifennu ac am actio yn y comedi teledu Gavin & Stacey, sydd wedi ennill gwobrau niferus, yw Ruth Jones (ganwyd ym 1966 ym Mhorthcawl). Mae hi hefyd yn enwog am ei pherfformiadau yn 'Little Britain' ac yn 'Nighty Night'.
Cynnwys |
Gyrfa[golygu]
Ar ôl iddi orffen yn yr ysgol, cafodd radd yn Nrama o Brifysgol Warwick ac wedyn yr aeth i Goleg Cerdd a Drama Caerdydd. I ddechrau, gweithiodd Jones ym myd comedi ar gyfer BBC Cymru Wales, gan ysgrifennu a pherfformio sawl cyfres radio a rhaglenni teledu comedi. Ar ôl gweithio gyda'r RSC a'r Theatr Genedlaethol, bu Jones yn y ffilm boblogaidd East is East, ac yn y bedwaredd gyfres o Fat Friends ar gyfer ITV, lle chwaraeodd ran Kelly. Yn ogystal â hyn, chwaraeodd rôl Myfanwy yn Little Britain ac wedyn fel Linda yn Nighty Night. Yn fwy diweddar, mae Jones wedi ymddangos mewn dwy ddrama gyfnod ar gyfer BBC1, sef Tess of the d'Urbervilles a Little Dorrit.
Mae Jones yn byw yng Nghaerdydd ac mae ganddi ei chwmni cynhyrchu ei hun o'r enw Tidy Productions (Sutherland Productions yn flaenorol). Yn ddiweddar, derbyniodd Tidy Productions ei gomisiwn cyntaf ac mae gan Ruth Jones sioe siarad ar BBC Radio Wales o'r enw Ruth Jones Sunday Brunch. Mae'r rhaglen yn gymysgedd o sgwrsio, gwestai arbennig, a chomedi.
Cydnabyddiaeth a gwobrau[golygu]
Enwebwyd Jones am y gwobrau Newydd-ddyfodiad Comedi Benywaidd Gorau a'r Actores Gomedi Teledu Gorau yn y Gwobrau Comedi Prydeinig 2007, gan ennill y categori cyntaf o'r ddau enwebiad.
Perfformiadau a sgriptiau[golygu]
Gwaith ffilm[golygu]
- Emma - Morwyn y Bates (1996)
- The Theory of Flight (1998)
- East Is East - Peggy (1999)
- Very Annie Mary Annie-Mary à la folie! (Ffrainc) (2001)
- Heartlands (2002)
Gwaith teledu[golygu]
- Tess of the d'Urbevilles - Joan Durbeyfield (2008)
- Torchwood - Nikki Bevan (2008)
- Gavin & Stacey - Nessa (2007 - presennol)
- The Everglades (2007)
- I'm with Stupid - Jean (2005-2006)
- Saxondale - Magz (Cyfres 1 - 7 rhaglen, 2006; Cyfres 2 - 6 rhaglen, 2007)
- Mayo - Cal Andrews (2006)
- Little Britain - Myfanwy (2003-2005)
- Nighty Night - Linda (2004-2005)
- Born and Bred - Ruby Moss (2005)
- The Baby Juice Express - Gladys (2004)
- Midsomer Murders ("Bad Tidings") - Rachael Rose (2004)
- Roger Roger ("Freedom's Just Another Word for Nothing Left to Lose") - Angelica (2003)
- EastEnders (Stori Dot) - Jenny Morgan (2003)
- Fat Friends - Kelly Chadwick (2002)
- Heartlands - Mandy (2002)
- Tales from Pleasure Beach - Mandy (2001)
- Knife and Wife - Comedi sefyllfa wedi'i animeiddio
- Adrian Mole: The Cappuccino Years - Sharon Bott (2001)
- Human Remains ("All Over My Glasses") - Elaine (2000)
- A Likeness in Stone - Joan Poole (2000)
- The Theory of Flight - Becky (1998)
- As Time Goes By ("Pardon?") - Gilly (1998)
- Drovers' Gold - Mary (1997)
Sgriptiau[golygu]
- Gavin & Stacey (6 rhaglen, 2007)
- Gavin & Stacey (7 rhaglen, 2008)
- The Chase (1 rhaglen, 2006)
- Fat Friends
(2005)
Gwaith cynhyrchu[golygu]
- Gavin & Stacey (Cyfres 1 6 rhaglen BBC3 a BBC2 2007)
- Gavin & Stacey (Cyfres 2 7 rhaglen BBC3 2008)