Iwan Rheon
| Iwan Rheon | |
|---|---|
| Ganwyd | 13 Mai 1985 Caerfyrddin, Cymru |
| Yn enwog am | Misfits |
| Galwedigaeth | Actor, canwr |
| Gweithgar | 2002– |
Actor ffilm a theledu Cymreig yw Iwan Rheon (ganed 13 Mai 1985), sydd wedi ennill gwobr Olivier, a graddio o London Academy of Music and Dramatic Art (LAMDA).
Cynnwys |
Bywyd cynnar [golygu]
Ganed yng Nghaerfyrddin yn fab i Einir a Rheon Tomos, mae ganddo frawd hŷn, sef Aled. Symudodd y teulu i Gaerdydd pan oedd yn bump oed a mynychodd Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf lle gymerodd rhan mewn cynhyrchiadau drama'r ysgol, a chystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, dechreuodd actio o ddifrif pan oedd yn 17 oed, gan fynd i astudio yn LAMDA.[1]
Gyrfa [golygu]
Actio [golygu]
Ymunodd Rheon â chast y ddrama sebon Gymreig, Pobol Y Cwm, pan oedd yn 17 oed, gan chwarae rhan Macsen White, ond gadawodd y rhaglen yn ddiweddarach i astudio yn LAMDA. Daeth ei rôl cyntaf o nôd ar y llwyfan yn Eight Miles High yn 2008 yn y Royal Court Theatre, Lerpwl.
Cafodd ei gastio i chwarae rhan Moritz Steifel yng nghynhyrchiad 2008 o ddrama gerdd roc Spring Awakening yn Llundain, a enillodd wobr Tony. Dechreuodd chwarae'r rôl ym mis Ionawr 2009 yn Lyric Hammersmith, a parhaodd pan symudwyd y sioe i Theatr Novello, hyd i'r sioe ddod i ben ym mis Mai 2009, pum mis yn gynharach na'r disgwyl. Nomineiddwyd fel yr Actor Gefnogol Orau mewn Sioe Gerdd ar gyfer gwobrau What's On Stage. Mae hefyd wedi ennill Gwobr Laurence Olivier yr Actor Gefnogol Orau mewn Sioe Gerdd yn 2010.
Yn syth wedi Spring Awakening, cafodd Rheon ei gastio ar gyfer cyfres deledu E4, Misfits, rhaglen a enillodd BAFTA. Disgrifwyd y sioe gan 247 Magazine fel cymysgedd o Skins a Heroes". Mae'n chwarae cymeriad swil a nerfus Simon Bellamy sy'n ennill y bŵer o anweladwyaeth.
Mae hefyd wedi ymddangos fel gwestai ar rhaglen gomedi Simon Amstell, Grandma's House. Ymddangosodd hefyd ym mhenod olaf Secret Diary of a Call Girl yn 2011.
Cerddoriaeth [golygu]
Mae hefyd yn ysgrifennu a chanu caneuon ers 16 oed, ac yn brif lais y grŵp The Convictions, hyd iddo adael y band er mwyn canolbwyntio ar ei yrfa actio. Rhyddhaodd EP Tongue Tied yn 2010, recordwyd yn RAK Studios, Llundain,[2] wedi ei gynhyrchu gan Jonathan Quarmby a Kevin Bacon.[3] Dychwelodd i RAK Studios ym mis Ebrill 2011, er mwyn recordio ei ail EP, Changing Times, wedi ei gynhyrchu unwaith eto gan Quarmby a Bacon, ond y tro hwn gyda 3 cerddor cefndirol. Rhyddhawyd Changing Times ar 10 Hydref 2011.[4]
Ffilmograffi [golygu]
| Blwyddyn | Teitl | Rôl | Nodiadau |
|---|---|---|---|
| 2009– | Misfits | Simon | Cyfres deledu |
| 2010 | Friday Night with Jonathan Ross | Gwestai | Sioe sgwrs |
| 2010 | Coming Up | Luka | Cyfres deledu |
| 2010 | Grandma's House | Ben | Cyfres deledu |
| 2011 | Secret Diary of a Call Girl | Lewis | Cyfres deledu |
| 2011 | Resistance | George | Ffilm |
| 2011 | Wild Bill | Pill | |
| 2012 | Wasteland | Dempsey |
Disgograffi [golygu]
- 2010: Tongue Tied EP
- 2011: Changing Times EP
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Ben Bryant (11 Mai 2010). Iwan Rheon Interview. Buzz.
- ↑ Live Music. The Bedford (29 Rhagfyr 2010).
- ↑ BACON & QUARMBY. Alan Cowderoy Management. Adalwyd ar 2 Chwefror 2012.
- ↑ Iwan Rheon. The Monto. Adalwyd ar 2 Chwefror 2012.
Dolenni allanol [golygu]
- Iwan Rheon ar wefan Internet Movie Database
- Iwan Rheon, London Theatre Database
- Iwan Rheon, BBC Wales
- Iwan Rheon, The Spotlight