BBC Radio Cymru
| BBC Radio Cymru | |
| Ardal Ddarlledu | Cymru |
|---|---|
| Dyddiad Cychwyn | 3 Ionawr 1977 |
| Tonfedd | FM: 92.4-96.8, 103.5-104.9, DAB, Freeview: 720 (yng Nghymru), Sky Digital: 0154 (dros Prydain a Iwerddon), Virgin Media: 936, Ar-lein |
| Pencadlys | Aberystwyth, Bangor, Caerdydd |
| Perchennog | BBC |
| Gwefan | www.bbc.co.uk/radiocymru |
Gorsaf radio BBC Cymru yw BBC Radio Cymru, sy'n darlledu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae wedi bod yn darlledu rhaglenni radio yn Gymraeg ledled Cymru ers iddi ddarlledu gyntaf ar 3 Ionawr 1977. Pan sefydlwyd, hon oedd yr unig orsaf radio i ddarlledu ar donfedd FM yn unig. Erbyn hyn, mae hefyd yn darlledu ar radio digidol DAB yn ardaloedd Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd, ar Freeview yng Nghymru, ar gebl digidol ac ar loeren drwy Wledydd Prydain cyfan, ers 2005; fe'i darlledir hefyd dros y Rhyngrwyd i bedwar ban byd. Mae'r rhaglenni yn cael eu cynhyrchu yn eu stiwdios yn Aberystwyth, Bangor, Caerdydd a Chaerfyrddin.
Rhaglen gyntaf Radio Cymru yn Ionawr 1977 oedd rhaglen brecwast Helo Bobol!, a oedd yn cael ei gyflwyno gan Hywel Gwynfryn gyda bwletinau newyddion gan Gwyn Llewelyn. Llais cyntaf yr orsaf oedd llais y cyhoeddwr cysondeb, Robin Jones.
Yn ystod y dydd, mae'n darparu cymysgedd o newyddion (rhaglenni Post Cyntaf, Taro'r Post a Post Prynhawn ynghyd a bwletinau bob awr), sgwrs a cherddoriaeth (rhaglenni dyddiol fel Jonsi, Nia, Dafydd Du ac Eleri Siôn a Geraint Lloyd). Gyda'r nos darlledir gwasanaeth C2 sy'n cynnwys cerddoriaeth gyfoes yn bennaf, wedi'i anelu at bobl ifanc.
Golygydd presennol Radio Cymru yw Sian Gwynedd.
Cynnwys |
Rhaglenni cyfredol (Hydref 2012) [golygu]
O ddydd Llun i ddydd Gwener [golygu]
| Amser | Rhaglen | Disgrifiad |
|---|---|---|
| 5.31–6.30 | Taro Nodyn (ar ddydd Llun) | Cerddoriaeth ysgafn a'r newyddion diweddara |
| Hywel Gwynfryn (ar ddydd Mawrth) | Cerddoriaeth hamddenol a chwmni difyr | |
| Ar Eich Cais (ar ddydd Mercher) | Dai Jones gyda'ch ceisiadau a'ch hoff ganeuon | |
| Richard Rees (ar ddydd Iau) | Ystod eang o gerddoriaeth | |
| Sesiwn Fach (ar ddydd Gwener) | Idris Morris Jones a'r byd gwerin cyfoes | |
| 6.30–8.30 | Post Cyntaf | Y newyddion diweddara o Gymru a’r byd |
| 8.30–10.30 | Dafydd a Caryl | Hwyl a cherddoriaeth gyda Dafydd Du a Caryl Parry Jones |
| 10.30–12.30 | Iola Wyn | Sgwrsio, cyngor, cerddoriaeth a chwerthin yn fyw o stiwdio Caerfyrddin |
| 12.30–14.00 | Taro'r Post | Cyfle i ymateb i bynciau'r dydd |
| 14.03–14.30 | Dyddiaduron (ar ddydd Llun) | Cyfle i agor cloriau dyddiaduron tri pherson sy'n edrych nôl ar flynyddoedd eu harddegau |
| Drama ar Radio Cymru (ar ddydd Mawrth) | Cyfres o ddramâu newydd | |
| Byd Iolo (ar ddydd Mercher) | Iolo Williams yn edrych ar fyd natur a chadwraeth | |
| Stiwdio (ar ddydd Iau) | Celfyddyd a thrafodaeth | |
| O'r Bae (ar ddydd Gwener) | Yn edrych nôl dros hynt a helynt yr wythnos wleidyddol | |
| 14.30–17.00 | Nia Roberts | Busnesu a sgwrsio, chwerthin a chrio |
| 17.00–18.15 | Post Prynhawn (17.00–18.00 ar ddydd Gwener) | Y newyddion diweddaraf a straeon y dydd |
| 18.04–18.31 | Oes Aur Teleg Watkins (ar ddydd Gwener) | Comedi gyda'r newyddiadurwr gwaethaf mewn hanes |
| 18.15–19.00 | Dan yr Wyneb (ar ddydd Llun) | Dylan Iorwerth yn gofyn y cwestiynau mawr ac yn mynd dan wyneb bynciau'r dydd |
| Dei Tomos (ar ddydd Mawrth) | Yn sgwrsio â hwn a'r llall ar draws Cymru | |
| Cofio (ar ddydd Mercher) | Darnau o'r archif | |
| Beti a'i Phobol (ar ddydd Iau) | Beti George yn sgwrsio gyda phobl diddorol | |
| 19.02–22.00 | C2 (18.31–22.00 ar ddydd Gwener) | Cerddoriaeth gyfoes Cymraeg, gan gynnwys caneuon o sesiynau, adolygiadau, cyfweliadau, a rhestri gigs |
| 22.00–24.00 | Geraint Lloyd | Cerddoriaeth a chystadlaethau o stiwdio Aberystwyth |
Ar ddydd Sadwrn [golygu]
| Amser | Rhaglen | Disgrifiad |
|---|---|---|
| 5.30–6.00 | Caniadaeth y Cysegr | Emynau a cherddoriaeth grefyddol |
| 6.00–6.30 | Byd Amaeth | Y diweddaraf o'r byd ffermio |
| 6.30–8.00 | Galwad Cynnar | Rhaglen gylchgrawn ar fyd natur |
| 8.00–8.30 | Post Cyntaf | Y newyddion diweddara o Gymru a’r byd |
| 8.30–9.00 | Ar y Marc | Golwg ar newyddion pêl-droed |
| 9.03–10.00 | Cofio | Darnau o'r archif |
| 10.02–12.00 | Richard Rees | Ystod eang o gerddoriaeth |
| 12.03–14.00 | Tudur Owen | Hiwmor a chwaraeon |
| 14.00–17.30 | Camp Lawn | Prynhawn o gyffro o'r meysydd chwarae |
| 17.30–18.00 | Oes Aur Teleg Watkins | Comedi gyda'r newyddiadurwr gwaethaf mewn hanes |
| 18.00–21.00 | Marc Griffiths | Arch-droellwr a'r Beibl Pop |
| 21.00–24.00 | Wil Morgan | Ceisiadau nos Sadwrn |
Ar ddydd Sul [golygu]
| Amser | Rhaglen | Disgrifiad |
|---|---|---|
| 5.31–6.00 | Yr Oedfa | Gwasanaeth dydd Sul |
| 6.00–8.00 | Taro Nodyn | Cerddoriaeth ysgafn a'r newyddion diweddara |
| 8.02–8.31 | Bwrw Golwg | Trafodaeth ar faterion crefyddol cyfredol |
| 8.31–10.00 | Dewi Llwyd ar Fore Sul | Cerddoriaeth a sgwrs |
| 10.02–10.46 | Beti a'i Phobol | Beti George yn sgwrsio gyda phobl diddorol |
| 10.46–12.30 | Hywel Gwynfryn | Cerddoriaeth hamddenol a chwmni difyr |
| 12.30–13.00 | Yr Oedfa | Gwasanaeth dydd Sul |
| 13.05–13.32 | O'r Bae | Yn edrych nôl dros hynt a helynt yr wythnos wleidyddol |
| 13.32–14.00 | Stiwdio | Celfyddyd a thrafodaeth |
| 14.01–15.00 | C2 | Cerddoriaeth gyfoes Cymraeg, gan gynnwys caneuon o sesiynau, adolygiadau, cyfweliadau, a rhestri gigs |
| 15.02–16.30 | Sesiwn Fach | Idris Morris Jones a'r byd gwerin cyfoes |
| 16.30–17.00 | Caniadaeth y Cysegr | Emynau a cherddoriaeth grefyddol |
| 17.02–17.30 | Dyddiaduron | Cyfle i agor cloriau dyddiaduron tri pherson sy'n edrych nôl ar flynyddoedd eu harddegau |
| 17.30–19.00 | Dei Tomos | Yn sgwrsio â hwn a'r llall ar draws Cymru |
| 19.01–19.30 | Drama ar Radio Cymru | Cyfres o ddramâu newydd |
| 19.30–21.00 | Ar Eich Cais | Dai Jones gyda'ch ceisiadau a'ch hoff ganeuon |
| 21.02–24.00 | John ac Alun | Cerddoriaeth a sgwrs |