Bwrdd yr Iaith Gymraeg
| Mae'r erthygl hon yn dibynnu'n fawr neu'n gyfan gwbl ar un ffynhonnell yn unig. Helpwch wella'r erthygl trwy ychwanegu cyfeiriadau neu ddyfyniadau priodol o ffynonellau eraill. (Ionawr 2010) |
| Bwrdd yr Iaith Gymraeg | |
| Arwyddair | "Gwneud hi'n haws i bawb ddefnyddio Cymraeg ymhob agwedd ar fywyd."[1] |
|---|---|
| Pencadlys | Caerdydd, Caerfyrddin, a Chaernarfon |
| Iaith / Ieithoedd swyddogol | Cymraeg |
| Prif Weithredwr | Meirion P. Jones |
| Sefydlwyd | Rhagfyr 1993 |
| Diddymwyd | Mawrth 2012 |
| Math | Asiantaeth weithredol |
| Lleoliad | Cymru |
| Cyllideb | Dim cyllideb, ond yn cael grant blynyddol gan y llywodraeth o £12m |
| Gwefan | http://www.byig-wlb.org.uk/Pages/Hafan.aspx |
Corff statudol a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU fel rhan o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 oedd Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Derbyniodd y Bwrdd grant blynyddol gan y llywodraeth, £13.4 miliwn yn 2006–7, a oedd i fod i'w ddefnyddio er mwyn "hybu a hwyluso" defnydd o'r iaith Gymraeg. Roedd y Bwrdd yn gyfrifol am weinyddu Deddf yr Iaith Gymraeg, ac am sicrhau bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn cadw at ei rheolau.
Cadeirydd cyntaf y Bwrdd oedd Dafydd Elis-Thomas. Y cadeirydd o Awst 2004 hyd 2012 oedd Meri Huws.
Cynnwys |
Agweddau at y Bwrdd [golygu]
Beirniadwyd y Bwrdd gan rai, yn honni nad oedd grym ganddo dros y cyrff cyhoeddus ac yn ei feirniadu am fethu hyrwyddo'r iaith o fewn y sector preifat.
Agwedd ymgyrchwyr dros y Gymraeg oedd gweld y Bwrdd yn offeryn diddannedd a biwrocrataidd yn yr ymgyrch i arbed yr iaith Gymraeg. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ei feirniadu'n llym, gan ymgyrchu am ddeddf iaith newydd.
Diddymu [golygu]
Diddymwyd Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar 31 Mawrth 2012 dan delerau Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Trosglwyddwyd ei ddyletswyddau i Lywodraeth Cymru ac i Gomisiynydd y Gymraeg, swydd newydd a grëwyd dan y mesur.
Dolenni allanol [golygu]
- Gwefan Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi'i harchifo gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.