S4C2
Oddi ar Wicipedia
Sianel teledu sy'n cael ei redeg gan S4C mewn cydweithrediad â BBC Cymru ac sy'n darlledu cyfarfodydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn fyw yw S4C2. Mae'n darlledu fel rheol ar ddydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau pan fo'r Cynulliad yn cwrdd yn y Senedd. Darlledir cyfarfodydd pwyllgor yn ogystal.
Fel ei chwaer-sianel S4C Digidol, mae S4C2 ar gael drwy wledydd Prydain drwy loeren, yn ogystal a thrwy Gymru ar Freeview (Teledu Digidol Daearol) ac ar wasanaeth cêbl Virgin Media hefyd, mewn rhannau o dde Cymru.
Derbyniad[golygu]
Yng Nghymru:
- Freeview – 86
- Virgin TV – 195 (De Cymru yn unig)
- SKY – 507
Y tu allan i Gymru:
- SKY – 507
Dolenni allanol[golygu]
- S4C2
- (Saesneg) BBC Cymru
- (Saesneg) Freeview: S4C2