Meri Huws

Oddi ar Wicipedia
Meri Huws
GanwydSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Swyddcadeirydd Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.comisiynyddygymraeg.cymru/English/Commissioner/MeriHuws/Pages/MeriHuws.aspx Edit this on Wikidata

Comisiynydd y Gymraeg rhwng 2012 a 2019 oedd Meri Huws (ganwyd Medi 1957). Yn enedigol o Gaerfyrddin, cafodd ei haddysg yn Ysgol Uwchradd Abergwaun, Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle astudiodd y gyfraith a gwleidyddiaeth, a Phrifysgol Rhydychen, lle astudiodd i fod yn weithiwr cymdeithasol.[1] Mae hi'n bennaeth ar Adran Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Bangor, ac yn ddirprwy is-ganghellor.

Hi oedd cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg o 1981 i 1983, ac roedd yn aelod arferol o Fwrdd yr Iaith Gymraeg rhwng 1993 a 1997. Mae hi'n aelod o'r Blaid Lafur.

Bu'n Gadeirydd ar Fwrdd yr Iaith Gymraeg o 2004 nes y diddymwyd y Bwrdd yn mis Mawrth 2012. Yn 2012 fe benodwyd Meri Huws i swydd newydd Comisiynydd y Gymraeg.

Ar 1 Ebrill 2020 penodwyd Meri Huws fel Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Hi yw'r wraig gyntaf yn hanes y Llyfrgell i ddal y swydd hon. Ymddiswyddodd ym mis Awst 2021.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Cymraeg) Comisiynydd y Gymraeg - Meri Huws / y Comisiynydd (3 Ebrill 2012). Adalwyd ar 19 Mai 2012.
  2. "Datganiad Ysgrifenedig: Llyfrgell Genedlaethol Cymru – Apwyntio Llywydd Dros Dro". gov.wales. 13 Medi 2021. Cyrchwyd 15 Chwefror 2022.