Owen Edwards
Oddi ar Wicipedia
- Am eraill o'r un enw, gweler Owen Edwards (gwahaniaethu)
Darlledwr Cymreig a Prif Weithredwr cyntaf S4C oedd Owen Edwards (1933 - 30 Awst 2010).
Ganed ef yn Aberystwyth, yn fab i Syr Ifan ab Owen Edwards. Bu'n cyflwyno'r rhaglen newyddion Heddiw o 1961 hyd 1966. Penodwyd ef yn Rheolwr BBC Cymru yn 1974, a dechreuwyd Radio Cymru a Radio Wales yn ystod ei gyfnod fel rheolwr. Bu'n Brif Weithredwr S4C o 1981 hyd 1989.