Eisteddfod Calan Mai Aberystwyth
Eisteddfod leol yw Eisteddfod Calan Mai Aberystwyth. Cynhelir hi yng Nghanolfan y Morlan yn Aberystwyth ar y dydd Mercher agosaf at 1 Mai bob blwyddyn.
Sefydlu[golygu | golygu cod]
Cynhaliwyd yr eisteddfod Calan Mai gyntaf yn 2014 gan ail-afael mewn traddodiad eisteddfod lleol oedd wedi bodoli yn y dref.
Cynnwys[golygu | golygu cod]
Ceir amrywiaeth o gystadlaethau i blant a phobl o bob oed. Yn ogystal â chystadlaethau traddodiadol fel adrodd a chanu ceir hefyd cystadlaethau hwyl.
Cefnogaeth[golygu | golygu cod]
Cefnogir yr eisteddfod gan Gymdeithas Eisteddfodau Lleol Cymru.