Cyngor Sir Ceredigion
Oddi ar Wicipedia
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn awdurdod lleol sy'n gweinyddu sir Ceredigion, Cymru ers y 1af o Ebrill 1996. Cyn hynny roedd Ceredigion yn ddosbarth dan weinyddiaeth Cyngor Sir Dyfed ac yn cael ei weinyddu yn lleol gan Gyngor Dosbarth Ceredigion. Lleolir pencadlys y Cyngor yn Aberaeron ac Aberystwyth.