Steve Jones (biolegydd)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Steve Jones (2012)
Eicon y Prosiect Genome

Biolegydd ac awdur Cymreig yw Steve Jones (ganwyd 24 Mawrth 1944).

Ganwyd Steve Jones yn Aberystwyth, a bu ym Mhrifysgol Caeredin a Phrifysgol Chicago cyn cael ei benodi'n Athro Geneteg yng Ngholeg y Brifysgol Llundain ac yn bennaeth labordy enwog Galton.

Ym 1996 enillodd Fedal Faraday y Gymdeithas Frenhinol am ehangu gwybodaeth y cyhoedd mewn geneteg ac esblygiad. Dros y blynyddoedd mae wedi cyflwyno'r maes hwn yn syml iawn i bobol gyffredin. Darwin, mae'n debyg yw ei arwr mawr ac mae wedi ysgrifennu am esblygiad.

Yn ei lyfr The Descent of Men mae'n croniclo dirywiad cyflwr y cromosom 'Y' ac yn dangos sut (yn ei farn ef) mae'r rhyw gwryw am ddod i ben ymhen rhai miloedd o flynyddoedd.

Cynnwys

Llyfryddiaeth [golygu]

Llyfrau gan Steve Jones [golygu]

Erthyglau gan yr Athro Steve Jones [golygu]

Erthyglau am yr Athro Steve Jones [golygu]

Teledu [golygu]

Cyflwynodd 6 o raglenni In the Blood, ar eneteg dynol a ddarlledwyd yn 1996.

Dyfyniad [golygu]

  • "Evolution is to the social sciences as statues are to birds: a convenient platform upon which to deposit badly digested ideas."

Dolenni allanol [golygu]

Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.