Neuadd Pantycelyn

Oddi ar Wicipedia
Neuadd Pantycelyn
Mathneuadd breswyl Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlPantycelyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolPrifysgol Aberystwyth Edit this on Wikidata
LleoliadAberystwyth Edit this on Wikidata
SirAberystwyth Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr50.5 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.416°N 4.068°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Manylion

Neuadd a neilltuwyd i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith ym Mhrifysgol Aberystwyth yw Neuadd Pantycelyn. Mae wedi ei leoli ar Ffordd Penglais yn nhref Aberystwyth. Yma mae cartref Côr Aelwyd Pantycelyn a hefyd swyddfa UMCA. Fe'i hagorwyd ar ddechrau'r 1950au ond fe'i newidiwyd i fod yn neuadd Gymraeg ym 1974. Dirprwy Warden presennol y Neuadd yw'r ysgolhaig ifanc Adrian Morgan.

Yn 2008 trafodwyd y posibilrwydd o gau'r neuadd fel rhan o ymgynghoriad ar ddyfodol llety myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth. [1]

Ar Ddydd Sul y 14eg o Fedi yn 2015, meddiannodd myfyrwyr y Neuadd o flaen cyfarfod cyngor y Brifysgol i wneud penderfyniad ar sicrhau ai peidio dyfodol y sefydliad ar 22ain o Fehefin. [2] Cynhaliwyd deiseb i gadw'r neuaddau ar agor ac, erbyn yr 22ain o Fedi, bu dros 2,700 o enwau arni. O ganlyniad i hyn, pleidleisiodd cyngor y brifysgol i ailagor Pantycelyn fel neuadd breswyl o fewn pedair blynedd yn dilyn gwaith adnewyddu.[3]

Penderfynodd Cyngor Prifysgol Aberystwyth ar y seithfed ar hugain o Dachwedd 2017 i fuddsoddi £12 miliwn i adnewyddu'r neuadd[4]. Gwelwyd hwn fel cam mawr yn yr ymgyrch i sicrhau bod y Neuadd yn ail Agor erbyn Medi 2019 gyda Llywydd UMCA Gwion Llwyd yn  "falch iawn o’r penderfyniad"[5] Mi fydd y gwaith o ddechrau adnewyddu'r adeilad yn dechrau ar ddechrau Chwefror 2018.

Cyhoeddodd y Brifysgol bod angen oedi ail agor y Neuadd i'r flwyddyn 2020 oherwydd nad oedd digon o waith wedi ei wneud o flaen llaw. Er hyn rydym yn nodi ei fod yn ymroddedig i'w ailagor blwyddyn yn hwyrach gyda chyllid yn ei le gyda chymorth £5 miliwn y Llywodraeth.[6]

Traddodiad Pantycelyn[golygu | golygu cod]

Roedd y neuadd yn cael ei weld fel pwerdy o genedlaetholdeb gyda sawl gwleidydd ac ymgyrchwyr Iaith wedi galw'r neuadd yn gartref am gyfnod. Yn ddiwylliannol ceir brith o draddodiadau gyda sawl bardd yn dysgu ei grefft yno. Mae'r cysylltiad Pantycelyn gyda cherddoriaeth Cymraeg yn amlwg heddiw gyda sawl band nodedig yn dod i fodolaeth yn y Neuadd megis Yr Ods[7]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Pantycelyn: Oes yn dod i ben? BBC Arlein. 09-12-2008. Adalwyd ar 26-09-2010
  2. Cymdeithas yr Iaith: Meddiannu Pantycelyn BBC Cymru Fyw. 14-06-2015. Adalwyd ar 17-06-2015.
  3. Deiseb Pantycelyn Archifwyd 2015-06-22 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd ar 23-06-2014
  4. "Cytuno ar gynllun £12m i ailddatblygu Neuadd Pantycelyn". BBC Cymru Fyw. 27/11/2017. Check date values in: |date= (help)
  5. "Cytuno ar gynllun £12m i adnewyddu neuadd Pantycelyn". Golwg 360. 28/11/2017. Check date values in: |date= (help)
  6. "Datganiad Neuadd Pantycelyn - Prifysgol Aberystwyth". www.aber.ac.uk. Cyrchwyd 2018-09-13.
  7. Dafydd, Rhun. "Y Sin Gerddorol". Undeb Myfyrwyr Aberystwyth.
Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.