Malcolm Pryce

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Awdur Seisnig yw Malcolm Pryce (ganwyd ym 1960), sy'n ysgrifennu nofelau ditectif noir yn arddull Raymond Chandler.

Bywgraffiad[golygu]

Ganwyd Pryce yn Amwythig, cyn symyd i Aberystwyth yn naw oed, lle mynychodd Ysgol Gyfun Penglais yn diweddarach. Arhosodd yno hyd iddo gwblhau ei arholiadau Lefel A, cyn gadael i fynd i deithio.[1]

Tra'n teithio bu'n gweithio yn ffatri BMW yn yr Almaen, ac fel golchwr llestri. Ar ôl gyrfa fer fel "gwerthwr aliwminiwm gwaetha'r byd", bu Pryce yn ysgrifennwr copi yn y byd hysbysebu yn Llundain a Singapore, ac mae e'n byw yn Bangkok, Gwlad Thai ar hyn o bryd.

Lleolir y nofelau yn Aberystwyth, ond mewn rhyw fydysawd arall lle mae derwyddon yn troseddu, lle mae bechgyn y dref yn diflannu mewn amgylchiadau rhyfedd, a lle mae gan y dref ddiwydiant ffilm, yn cynhyrchu ffilmiau 'Beth Welodd y Bwtler'. Arwr y straeon yw Louie Knight, ditectif preifat gorau tref Aberystwyth, ac yr unig dditectif preifat yn Aberystwyth...

Llyfrau[golygu]

Dolenni allanol[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1.  Mid Wales Hall of Fame: Malcolm Pryce. BBC. Adalwyd ar 2009-01-06.