Ysgol Gymraeg yr Urdd
Ysgol gynradd Gymraeg yn Aberystwyth ydy Ysgol Gymraeg yr Urdd, neu Ysgol Gymraeg Aberystwyth fel adnabyddir hi heddiw.
Cynnwys |
[golygu] Hanes
Sefydlwyd gan Syr Ifan ab Owen Edwards yn 1939 fel ysgol breifat, a codwyd tâl o 4 gini y tymor.[1] Agorwyd yr ysgol yn mis Medi 1939 dan nawdd Urdd Gobaith Cymru. Y brifathrawes oedd Norah Isaac. Bu ei sefydlu yn drobwynt yn hanes addysg yng Nghymru gan iddi arloesi'r maes a bod y gyntaf o lawer o ysgolion Cymraeg a sefydlwyd wedi hynny, y rhan fwyaf ohonynt gan Awdurdodau Addysg lleol.[2]
Agorwyd yr ysgol gyntaf ar Ffordd Llanbadarn, gan symud i safle yn Lluest ym 1946. Symudodd unwaith eto i safle Ysgol Ffordd Alecsandra ym 1952. Ym 1989 symudodd i'w safle presenol ym Mhlascrug.[1]
[golygu] Presennol
Dechreuodd yr ysgol gyda ond 7 o ddisgyblion, ond mae hyn wedi tyfu i 350 heddiw, ehangodd yr ysgol lawer yn ystod yr 1980au a'r 1990au pan ddechreuodd rhieni weld gwerth addysg ddwyieithog.[2] Er y gall 95% o ddisgyblion yr ysgol siarad y Gymraeg i safon iaith gyntaf, dim ond 65% daw o gartrefi lle mae Cymraeg yn brif iaith.[3] eRBYN Heddiw mae gan yr ysgol 18 o athrawon, 20 cynorthwyydd a 15 o staff ategol.[2] Noddir yr ysgol gan Oriel y Bont a HSBC.[4]
Y prifathro ar hyn o bryd yw Mr. Clive Williams.
[golygu] Cyn-athrawon o nôd
- Mary Vaughan Jones, awdures - rhwng 1953 ac 1958
[golygu] Cyn-ddisgyblion o nôd
- Aled Haydn Jones, cynhyrchydd BBC Radio 1
[golygu] Cysylltiadau allanol
[golygu] Ffynonellau
- ↑ 1.0 1.1 Birthday bash for first Welsh school. Cambrian News (1 Hydref 2009).
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Croeso. Ysgol Gymraeg Aberystwyth.
- ↑ School Inspection 10-12 February 2003. Estyn.
- ↑ Noddwyr yr ysgol. Ysgol Gymraeg Aberystwyth.