Aled Haydn Jones

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Aled Haydn Jones

Cynhyrchydd radio Cymreig ydy Aled Haydn Jones (ganwyd 9 Awst 1976, Aberystwyth, Ceredigion). Mae'n siaradwr Cymraeg rhugl. Ers 2004 mae wedi gweithio ar raglen The Chris Moyles Show ar BBC Radio 1. Nid yw bob amser i'w glywed ar yr awyr, ond cyfeirir ato'n aml gan y tîm yn y stiwdio. Pan mae ar yr awyr, mae yn aml yn bwnc y jociau, yn aml oherwydd ei genedligrwydd neu ei rhywioldeb. Yn ei swydd fel cynhyrchydd yn ystod y dydd ar Radio 1, mae hefyd yn cymryd rhan yn y broses o ddewis cerddoriaeth ar gyfer y playlist y dydd. Yn ddiweddar mae Aled wedi dechrau cynhyrchu'r sioe fyw am un wythnos bob mis gan gymryd lle y cynhyrchydd rheolaidd, Rachel Jones.

Cyfeirir at Aled yn aml fel BB Aled oherwydd ei obsesiwn gyda Big Brother. Pan mae'r gyfres yn cael ei darlledu, yn aml mae'n aml cyfweld ag aelodau o'r tŷ sydd wedi cael eu cicio allan ar the Chris Moyles show. Achosodd ddadl tra'n cyfweld George Galloway ar ôl Celebrity Big Brother ym mis Ionawr 2006. Adroddodd ffigyrau arolwg Radio 1 i Mr Galloway ac ymatebodd yntai yn flin i'r canlyniadau. Yn dilyn sylwadau gwrthodol gan Galloway, bygythodd gweinydd o Plaid Respect i ymosod ar Aled, dyna y gwnaeth cyd gystadleuydd Galloway Dennis Rodman hefyd. Ar y pwynt yma, daeth y cwestiynu i ben. Daeth hwn yn gamgymeriad PR, enwog a chynyddodd enwogrwydd Aled am gyfnod.[1]

Pan newidiodd y rhaglen "Radio 1's Sunday Surgery: yn 2008, hefo Kelly Osbourne fel y cyflwynwraig, fe ddechreuodd Aled lenwi mewn ar adegau pan nad oedd Kelly ar gael, cyn hir Aled oedd y dewis cyntaf i gyflwyno'r rhaglen yn absenoldeb Kelly. Yn mis Tachwedd 2008 fe gymerodd Aled y rhaglen drosodd am 3 mis oherwydd fod Kelly am fynd i America i ffilmio cyfres deledu newydd. Daeth Aled yn boblogaidd iawn hefo grandawyr y rhaglen ac o ganlyniad i hynny, mae bellach yn gyd-gyflwynydd llawn amser.

Yn ogystal â'i rôl ar Radio 1, mae Aled hefyd wedi bod yn feirniad ar raglen Waw Ffactor, S4C. Ymddangosodd fel rhodiwr yng nghyfres 4 o 24, ym mhennod 23, a phleidleiswyd ef yn Rear of the Year yn 2004.

Roedd hefyd yn un o'r Jones's a dorrodd record y byd Jones Jones Jones am gasglu ynghyd y nifer fwyaf o bobl yn rhannu’r un cyfenw yn Stadiwm y Mileniwm yn 2006, gan fod yn un o 1,224 Jones a gymerodd rhan.[2]

Ar 9 Awst 2007, trosglwyddodd Chris Moyles ei raglen i Aled am hanner awr. Roedd gan y rhaglen fer ei chân-thema ei hun, brand new cheesy song. Gelwyd y rhaglen yn y 'Aled Haydn Jones show'. Ni allai alw ei sioe yn The Aled Jones Show gan fod Aled Jones, y canwr, â sioe o'r un enw eisoes. Gwahoddodd Aled ei fam a'i dad i ddod yn rhan o'r criw ar gyfer y rhaglen fer.

Ym mis Tachwedd 2007, cymrodd Aled ran yng nghyfres deledu Celebrity Scissorhands. Yn y rhaglen bu enwogion yn torri gwallt a rhoi triniaeth salon harddwch, gydag ychydig iawn o hyfforddiant, er mwyn codi arian ar gyfer elusen Plant Mewn Angen.

[golygu] Dolenni allanol

[golygu] Cyfeiriadau

Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill