Mary Vaughan Jones

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Athrawes a nofelydd plant Cymraeg oedd Mary Vaughan Jones (ganwyd yn 'Firs Cottage', Maenan[1] ger Llanrwst, 28 Mai 1918 - bu farw Ebrill/Mai/Mehefin 1983, ardal Rhuddlan, Clwyd).[2][3]

Bywgraffiad[golygu]

Ysgrifenodd tua deugain o lyfrau dros ei hoes, gan gyfrannu'n gyson i faes llenyddiaeth plant a cylchgronnau'r Urdd. Yn ystod ei gyrfa fel athrawes, dysgodd yn:

Sefydlwyd gwobr er mwyn coffáu ei chyfraniad i lenyddiaeth.

Gwaith[golygu]

  • Cyfres Darllen Stori: 1. Sali Mali (Cyhoeddwyd gyntaf yn 1969)
  • Cyfres Darllen Stori: 2. Y Pry Bach Tew (Cyhoeddwyd gyntaf yn 1969)
  • Cyfres Darllen Stori: 3. Annwyd y Pry Bach Tew (Cyhoeddwyd gyntaf yn 1972)
  • Cyfres Darllen Stori: 4. Jaci Soch (Cyhoeddwyd gyntaf yn 1969)
  • Cyfres Darllen Stori: 5: Tomos Caradog, 1969
  • Cyfres Darllen Stori: 7. Pastai Tomos Caradog (Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn Ebrill 1997)
  • Cyfres Darllen Stori: 8. Morgan a Magi Ann (Cyhoeddwyd gyntaf yn 1975, ac wedyn yn 2002)
  • Cyfres Darllen Stori: 9. Siencyn (Cyhoeddwyd gyntaf yn 1975)
  • Cyfres Darllen Stori: Bobi Jo (Cyhoeddwyd gyntaf yn 1976)
  • Llyfrau Dau Dau: Rhigymau Jac y Jwc
  • Llyfrau Dau Dau: Llyfr Bach Jac y Jwc
  • Llyfrau Dau Dau: Llyfr Mawr Jac y Jwc
  • Llyfrau Dau Dau: Llyfr Bach Nicw Nacw
  • Llyfrau Dau Dau: Llyfr Mawr Nicw Nacw
  • Llyfrau Dau Dau: Llyfr Bach Dwmplen Malwoden
  • Llyfrau Dau Dau: Llyfr Mawr Dwmplen Malwoden
  • Llyfrau Dau Dau: Llyfr Bach Guto
  • Llyfrau Dau Dau: Llyfr Mawr Guto
  • Llyfrau Dau Dau: Llyfr Mawr Culhwch
  • Llyfrau Dau Dau: Storïau Llafar 1
  • Llyfrau Dau Dau: Canllaw Athrawon
  • Cynllun y Porth: Ni ein Hunain - Y Goeden
  • Y Dynion Bach Od
  • Ben y Garddwr a Storïau Eraill (Enillydd Gwobr Tir na n-Og 1989)
  • Sami Seimon a Storïau Eraill
  • Begw'r Iâr yn Mynd am Dro (Cyhoeddwyd gyntaf yn 1980)

Ail-gyhoeddir y llyfrau rhain gan Gymdeithas Lyfrau Ceredigion. Seilir nifer o lyfrau newydd ar Sali Mali a'i chymeriadau eraill, er engraifft: Sali Mali a'r Ceffyl Gwyllt, Dylan Williams, 2006. Seilir nifer o raglenni teledu a chynnyrch cysylltiedig ar ei chymeriadau hefyd gan S4C. Darlunwyr y lluniau gwreiddiol yn lyfrau Mary Vaughan Jones gan Jac Jones.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Firs Cottage: Mary and Jack Marrow of Firs Cottage, Maenan, delve into the history of their home, bbc.co.uk/wales/northwest
  2. Mynegai Genedigaethau Lloegr a Chymru.
    Ebrill/Mai/Mehefin 1918; Mary V Jones; Cyfenw mam cyn priodi: Vaughan; Ardal Cofrestru: Llanrwst; Cyfrol: 11b; Tudalen 0839
  3. Mynegai Marwolaethau Lloegr a Chymru.
    Ebrill/Mai/Mehefin 1983; Mary Vaughan Jones; Dyddiad geni: 28 Mai 1918; Ardal Cofrestru: Rhuddlan, Clwyd; Cyfrol: 24; Tudalen 529

Dolen allanol[golygu]