Ysgol Gymraeg

Oddi ar Wicipedia

Ysgol sy'n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig yw Ysgol Gymraeg. Mae'r rhan fwyaf ohonynt mewn ardaloedd Seisnigedig yng Nghymru. Y Gymraeg hefyd yw iaith chwarae, cymdeithasu, a gweinyddu.

Symbyliad sefydlu ysgol Gymraeg bron yn ddieithriad yw pwysau gan rieni, ac mewn rhai amgylchiadau yn erbyn rhwystrau enbyd o du Awdurdodau Addysg. Y corff sydd yn gwarchod buddiannau y rhieni yw Rhieni Dros Addysg Gymraeg, sef 'Rhag'.

Mae'n debyg mai'r ysgolion Cymraeg sydd wedi bod yn bennaf gyfrifol am y cynnydd yn nifer y plant oedran ysgol sy'n siarad Cymraeg yn ôl cyfrifiadau 1991 a 2001. Cred nifer o bobl fod yr ystadegau hynny'n gamarweiniol.[angen ffynhonnell]

Yr unig ysgol Gymraeg reolaidd y tu allan i Gymru yw Ysgol Gymraeg Llundain.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.