Craig-glais

Oddi ar Wicipedia
Craig-glais
Golygfa ar Graig-glais, yn y pellter, dros draeth Aberystwyth
Mathbryn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAberystwyth Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr430 troedfedd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.425°N 4.083°W Edit this on Wikidata
Map

Gallt yw Craig-glais (Saesneg: Constitution Hill) sy'n sefyll ar lan Bae Ceredigion ar ymyl ogleddol tref Aberystwyth, Ceredigion.

Dringir yr allt gan Reilffordd y Graig, rheilffordd ffwniciwlar serth sy'n atyniad twristaidd ers dros gan mlynedd. Rhed Llwybr Troed Clarach dros y Graig i gysylltu Aberystwyth â Chlarach yn ymyl Y Borth. Ar ben y Graig ceir gorsaf uchaf Rheilffordd y Graig, camera obscura a chaffi.

Ceir clogwyni trawiadol uwchben y môr, yn cynnwys Craig-y-fulfran. O ben Craig-glais ceir golygfeydd eang dros Fae Ceredigion, o benrhyn Llŷn a bryniau Eryri yn y gogledd i lawr i ogledd Sir Benfro yn y de.

Wrth droed y Graig, ar Bromenâd Aberystwyth, ceir traddodiad 'cicio'r bar' lle bydd trigolion y dre, myfyrwyr ac ymwelwyr yn cyffwrdd â neu gicio trawst y canllaw gyda gwadn eu troed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]