Michael Faraday

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Michael Faraday

Cemegydd a ffisegydd Seisnig oedd Michael Faraday, FRS (22 Medi 1791 – 25 Awst 1867). Daeth Faraday o deulu tlawd ond Cristnogol, yr oedd yn aelod ac yn flaenor gyda'r sect Protestanaidd y Sandemaniaid, ac felly cyrhaeddod lefel uchel o lythrennedd am y cyfnod i blentyn mor dlawd. Gwasanaethodd wedyn am saith mlynedd fel prentis i rwymydd llyfrau. Felly roedd cyfle gwych ganddo i ddarllen llyfrau gwyddonol. Yr oedd ei dad yn of, ac felly yr oedd Michael yn fachgen digon alluog gyda theclynau ac ynni o'r dechrau.

Drwy fynychu darlithoedd gwyddonol nosweithiau, fe gafodd gyfeillgarwch Humphry Davy, ac fe ddaeth i weithio i'r Royal Institution yn Llundain (ar y pryd yn gweithio fel adran gwyddoniaeth y Brifysgol). Dringodd yn gyflym i fod yn aelod llawn ac wedyn athro. Cyfranodd yn sylweddol i'r fyd Cemeg a Ffiseg, a Faraday oedd y gwyddonydd a ddarganfuwyd anwythiad electromagnetig, diamagnetedd ac electrolysis a'r cysyniad o faes magnetig. Creodd sylfeini y modur trydan. Daeth o hyd i gemegau newydd fel bensen, dechreuodd y syniad o rifau ocsidiad a'r termau anod, catod, electrod, ac ïon. Enwyd yr uned SI am gynhwysiant, Farad, ar ei ôl, ac hefyd y cysonyn Faraday.

Er gwaethaf diffyg addysg prifysgol ffurfiol, fe ddaeth yn Athro Fullerian Cemeg, post a gadwodd hyd at ddiwedd ei oes.