Brut y Brenhinedd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Brut y Brenhinedd ('Cronicl' neu 'Hanes y Brenhinoedd') yw'r teitl mwyaf cyffredin ar yr amrywiol fersiynau Cymraeg Canol o'r Historia Regum Britanniae (Lladin), llyfr enwocaf yr awdur Cambro-Normanaidd Sieffre o Fynwy (c.1100 - c.1155) a gyhoeddwyd ganddo tua'r flwyddyn 1136. 'Brut Sieffre' a fu'n bennaf gyfrifol am ymledu chwedl y Brenin Arthur ledled Ewrop yn yr Oesoedd Canol. Ffug hanes a geir yn y llyfr, a ysgrifenwyd yn Lladin, ond roedd ei ddylanwad yn aruthrol. Cafwyd sawl trosiad Cymraeg Canol diweddarach dan yr enw Brut y Brenhinedd neu Brut y Brytaniaid. Er eu bod yn seiliedig ar waith Sieffre o Fynwy ceir gwahaniaethau pwysig yn eu cynnwys a'u pwyslais ac mae hynny, ynghyd â'r ffaith eu bod ymhith y testunau Cymraeg Canol mwyaf diddorol a difyr, yn eu gosod ar wahân.

Historia Sieffre a Brut y Brenhinedd[golygu]

Mae Brut y Brenhinedd, fel yr Historia Regum Britanniae, yn adrodd hanes honedig Ynys Prydain o ddyfodiad Brutus o Gaerdroia (tua 1000 o flynyddoedd CC, os credir yr hanes), disgynnydd Aeneas Ysgwydwyn, hyd farwolaeth y brenin Cymreig Cadwaladr yn y 7fed ganrif (am grynodeb o'r cynnwys gweler Historia Regum Britanniae). Yn ôl Sieffre ei hun yr oedd wedi cyfieithu'r hanes o hen lyfr Cymraeg, ond ni chredir fod sail i hyn. Serch hynny mae'n amlwg fod rhai o'r bobl a digwyddiadau yn y llyfr (ac eithrio hanes Brutus a'i ddisgynyddion, a.y.y.b) yn seiliedig ar draddodiadau Cymreig dilys.

Gwahaniaeth amlwg rhwng llyfr Sieffre a'r mwyafrif o destunau Brut y Brenhinedd yw'r ffaith nad yw'r cyntaf yn cynnwys y chwedl Cyfranc Lludd a Llefelys. Dyma un o'r prif ystyriaethau wrth ddosbarthu testunau amrywiol Brut y Brenhinedd. Mae'r testunau Cymraeg Canol sydd ddim yn cynnwys chwedl Lludd a Llefelys yn addasiadau neu gyfieithiadau gweddol agos o destun Lladin llyfr Sieffre.

Fersiynau a thestunau[golygu]

Ceir dros 60 o drosiadau neu gyfaddasiadau Cymraeg Canol gyda'r cynharaf i'w ddyddio i tua dechrau'r 13eg ganrif. Yn ôl ysgolheigion fel Brynley F. Roberts, ymrannant yn chwe phrif fersiwn a ddosberthir yn ôl enw'r llawysgrif gynharaf y ceir y testun ynddi.

Ystyrir tri ohonynt yn gyfieithiadau rhydd, sef:

Ystyrir y tri arall yn addasiadau mwy gwreiddiol, sef:

Ceir un o'r testunau cynnar yn Llyfr Coch Hergest, ond gwyddys mai testun cyfansawdd yw, yn deillio o fersiynau Dingestow a Llanstephan 1.

Un o'r anhawsterau pennaf sy'n wynebu ymchwilwyr i hanes dyrys y fersiynau hyn a'r perthynas rhyngddynt ydy'r ffaith nad oes trefn foddhaol ar ddosbarthiad a hanes y llawysgrifau Lladin o ffug hanes Sieffre. Yn ogystal, mae'r mwyafrif helaeth o'r testunau Cymraeg ar gael yn y llawysgrifau yn unig, heb eu hastudio'n iawn na'u cyhoeddi.

Yn ogystal â gwahaniaethu testunol, mae'r testunau Cymraeg Canol yn bwysig am eu bod yn rhoi enwau Cymraeg ar rai o'r cymeriadau amlycaf, yn arbennig yn yr ail ran o'r llyfr, sy'n ein cynorthwyo i wahaniaethu rhwng creadigaethau dychymyg Sieffre a chymeriadau sy'n perthyn i'r traddodiad Cymreig. Elfen amlwg hefyd yw'r ffordd yr ymhelaetha'r cyfarwyddiaid anhysbys a luniodd y testunau Cymraeg ar rai digwyddiadau: ceir ychwanegiadau pwysig nad ydynt yn y fersiynau Lladin.

Testunau cyhoeddedig o Frut y Brenhinedd[golygu]

  • Brut y Brenhinedd (Llansteffan MS. 1): Brinley F. Roberts,(gol.), Brut y Brenhinedd[:] Llanstephan MS. 1 Version (Mediaeval and Modern Welsh series 5, Dulyn, 1971; argraffiad newydd 1984). Detholiad yn unig, gyda nodiadau.
  • Brut Dingestow: Henry Lewis (gol.), Brut Dingestow (Caerdydd, 1942). Testun llawn ond mae'r nodiadau yn anfoddhaol.
  • Brut Tysilio: gol. A. Griscom, yn The Historia regum Britanniæ of Geoffrey of Monmouth, gol. A. Griscom a J. R. Ellis (Llundain, 1929); gol. Peter Roberts, The chronicle of the kings of Britain. Translated from the Welsh copy attributed to Tysilio (Llundain, 1811; argaffiad newydd heb y nodiadau, Llanerch Publications); cyf. A. S. San Marte, Brut Tysilio. Gottfrieds von Monmouth Historia Regum Britanniae und Brut Tysilio (Halle, 1854) (Almaeneg).
  • Brut y Brenhinedd (Cotton Cleopatra B. v a Llyfr Du Dinas Basing), gol. a chyf. John Jay Parry, Brut y Brenhinedd (Cotton Cleopatra Version) (Cambridge, Mass., 1937). Beirniadwyd gan W. J. Gruffydd, yn enwedig am gamgyfieithiadau, Medium Aevum 9 (1940): 44-9.
  • Testun Llyfr Coch Hergest o Brut y Brenhinedd: gol. John Rhys a J. G. Evans, The Text of the Bruts from the Red Book of Hergest (Rhydychen, 1890).

Darllen pellach[golygu]

  • Bromwich, Rachel (gol.) (2006). Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain. Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-1386-8.
  • Griscom, A. a J.R. Ellis (gol.). The Historia regum Britanniæ of Geoffrey of Monmouth with contributions to the study of its place in early British history. London, 1929.
  • Jarman, A. O. H. "Lewis Morris a Brut Tysilio." Llên Cymru 2:3 (1953): 161-83.
  • Roberts, Brynley F. “Geoffrey of Monmouth, Histora Regum Britanniae and Brut y Brenhinedd.” Yn The Arthur of the Welsh. The Arthurian Legend in Medieval Welsh Literature, gol. A. O. H. Jarman, Rachel Bromwich a Brynley F. Roberts. Caerdydd, 1991. 97-116.
  • Roberts, Brynley F. Brut Tysilio. Darlith agoriadol gan Athro y Gymraeg a'i Llenyddiaeth. Abertawe, 1980. ISBN 978-0860760207
  • Roberts, Brynley F. "The Red Book of Hergest version of Brut y Brenhinedd." Studia Celtica 12/13 (1977-8): 147-86.
  • Roberts, Brynley F. "Fersiwn Dingestow o Brut y Brenhinedd." Bulletin of the Board of Celtic Studies 27 (1977): 331-61.
  • Roberts, Brynley F. "The Treatment of Personal Names in the Early Welsh Versions of the Historia Regum Britanniae." Bulletin of the Board of Celtic Studies 25 (1973): 274-90.
  • Reiss, E. “The Welsh versions of Geoffrey of Monmouth's Historia.” Cylchgrawn Hanes Cymru 4 (1968/9): 97-127.

Dolen allanol[golygu]