Noson Lawen

Oddi ar Wicipedia
Noson Lawen yn Lleweni Uchaf, Bodfari, ffotograffydd: Geoff Charles (13 Chwefror 1953)

Traddodiad gwerin Cymreig o adloniant anffurfiol a gysylltir â hirnosau'r gaeaf yw'r Noson Lawen. Ceir arfer cyffelyb yn yr Alban ac Iwerddon, sef y ceilidh.

Hyd at y 19g, arferai trigolion ardaloedd mynyddig Cymru gyfarfod ar aelwydydd ei gilydd - i wau hosanau er enghraifft - a difyrru ei gilydd. Roedd yn arfer arbennig o boblogaidd yn ardal Meirionnydd a rhannau eraill o ogledd Cymru.

Byddent yn adrodd chwedlau ac yn canu penillion telyn. Byddai tyddynwyr yn cynnal y Noson Lawen yn eu tro a'r telynor yn cyrraedd ddiwedd y prynhawn. Canai pawb bennill yn ei dro, "pawb a'i bennill yn ei gwrs".

Erbyn canol yr 20g daeth yn enw ar noson o adloniant ysgafn mewn neuaddau, yn cynnwys amrywiaeth o gerddoriaeth, hiwmor ac adrodd straeon. Roedd yna raglen radio boblogaidd o'r enw Noson Lawen yn y 1940au a'r 1950au ac erbyn heddiw mae'n deitl ar y gyfres hir-sefydlog Noson Lawen ar S4C hefyd.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  • R. W. Jones, Bywyd Cymdeithasol Cymru yn y Ddeunawfed Ganrif (Llundain, 1931), tud. 86.