Twmpath (dawns)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Twmpath)
Twmpath dawns, o flaen Castell Caerffili

Digwyddiad Cymreig, ble mae pobl yn dod ynghyd i ddawnsio gwerin yw twmpath dawns neu twmpath dawnsio. Mae'r gair 'twmpath' yn golygu 'cynulliad o bobl', ac yn hanesyddol mae wedi'i ddefnyddio hefyd i gyfeirio at achlysuron pan fyddai pobl yn dod at ei gilydd i chwarae gemau, mewn 'twmpath chwarae'.[1] Erbyn hyn, fodd bynnag, mae'r gair 'twmpath' yn cael ei ystyried yn gyfystyr â thwmpath dawns. Yn yr 20g bu Urdd Gobaith Cymru yn noddwr brwd o'r twmpathau, yn enwedig yng ngwersylloedd Nglan Llyn a Llangrannog.

Mae'r twmpath fel arfer yn ddigwyddiad anffurfiol ac ni fydd y bobl sy'n cymryd rhan wedi ymarfer o flaen llaw nac yn brofiadol fel dawnswyr gwerin. Bydd y twmpath yn cynnwys nifer o ddawnsfeydd unigol sy'n cael eu dysgu ar y pryd. Yn ystod y noson, mae rhyddid i ddawnswyr adael neu ymuno â dawnsfeydd unigol fel y mynnant, yn hytrach na bod disgwyl iddynt gymryd rhan yn yr holl ddawnsfeydd o'r dechrau i'r diwedd.[2]

Bydd person neu bersonau penodol yn cael y dasg o 'alw' y twmpath, sef cyflwyno'r ddawns i'r rhai sy'n bwriadu cymryd rhan ynddi ac yna'u helpu i gyflawni'r ddawns i gyfeiliant sydd naill ai'n fyw neu wedi'i recordio. Ymhlith y galwyr mwyaf nodedig yng Nghymru mae Dei Tomos.

Erbyn yr 21g roedd twmpath dawns yn aml yn cael ei gynnal i ddathlu Gŵyl Dewi neu fel rhan o ddathliad priodas.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "'Twmpath' yng [[Geiriadur Prifysgol Cymru|Ngeiriadur Prifysgol Cymru]]". Geiriadur Prifysgol Cymru. 1 Mawrth 2019. URL–wikilink conflict (help)
  2. Gwefan youtube.com; yma clywir y galwr yn rhoi cyfarwyddiadau i'r dawnswyr. Adalwyd 2 Chwefror 2019.