Wicipedia:Erthyglau dethol

Oddi ar Wicipedia

Mae rhai erthyglau ar Wicipedia wedi cael eu hethol gan gymuned Wicipedia fel erthyglau dethol, oherwydd eu bod o safon dda. Rhoddir y marc hwn ar erthygl ddethol yn arwydd o'i statws.

1 Erthygl dethol: Y Ddraig Goch


Trefnydd y darpar erthyglau[golygu cod]

Arolygir y system erthyglau dethol gan un defnyddiwr am 6 mis ar y tro. Enwebir a chytunir ar y trefnydd hwn ar Wicipedia:Y Caffi.

System cynnig darpar erthyglau dethol[golygu cod]

Mae'r broses o gynnig darpar erthyglau dethol a'u hadolygu yn cael ei weinyddu gan y gymuned ar y dudalen waith Wicipedia:Cynnig erthyglau dethol. Gall unrhyw un gynnig bod rhyw erthygl yn cael ei gynnwys ymhlith erthyglau dethol Wicipedia ar y dudalen honno. Gall unrhyw gyfrannwr helpu gyda'r gwaith adolygu hefyd trwy roi nodyn ar y dudalen waith yn nodi'r agweddau o'r gwaith adolygu y mae'n bwriadu troi atynt – po fwyaf sydd wrthi'n golygu po fwyaf o erthyglau a gaiff eu cynnwys yn y categori erthyglau dethol. Hyd yn oed os nad yw rhywun yn cytuno i gyfrannu at y gwaith golygu mae croeso iddo nodi a yw'n cefnogi'r cynnig i drin yr erthygl yn ddarpar erthygl dethol. Byddai o ddefnydd bod cymaint â phosibl ohonom yn nodi ar y dudalen waith ein bod naill ai'n:

  • Cefnogi - cytuno y dylai'r erthygl gael ei thrin fel darpar erthygl ddethol, gan gynnig sylwadau manylach ar wendidau a.y.b. ar dudalen sgwrs yr erthygl ei hun.
  • Gwrthwynebu - mae'r erthygl ymhell o'r safon angenrheidiol; dylid tynnu'r enwebiad yn ôl ac ail-enwebu'r erthygl pan mae wedi gwella.

Os na fydd digon o gefnogwyr a golygyddion yn dod i'r fei fe all trefnydd y darpar erthyglau symud y cynnig i archifau'r dudalen.

Gweithio ar yr erthygl[golygu cod]

Ar dudalen sgwrs yr erthygl mae'r gwaith adolygu manwl yn digwydd.

Yn ddelfrydol bydd cyfrannwr gwreiddiol yr erthygl yn cymryd rhan yn y gwaith yma. Weithiau nid yw hynny'n bosib pan nad yw'r cyfrannwr gwreiddiol yn dal i fod yn weithgar ar Wicipedia. Dylid cysylltu â'r cyfrannwr gwreiddiol pan gynigir yr erthygl yn gyntaf ar y dudalen waith.

Rhestrir y gofynion ar gyfer erthygl ddethol isod.

Wrth i'r gwaith golygu gael ei gyflawni gall y rhai sy'n gwneud y gwaith ac eraill nodi ar y dudalen sgwrs eu bod yn fodlon neu'n anfodlon ar ryw agwedd o'r gwaith neu ar yr erthygl gyfan. Eto gellir marcio sylwadau gyda cefnogi neu gwrthwynebu i dynnu sylw at safbwynt y defnyddiwr.

Trefnydd y darpar erthyglau fydd yn penderfynu bod cytundeb bod erthygl yn cyrraedd y safon ofynnol. Ef fydd yn:

  • ychwanegu'r marc at yr erthygl ac ychwanegu'r erthygl at y categori erthyglau dethol, drwy deipio {{erthygl ddethol}}, ac yn
  • symud yr eitem o'r dudalen 'Cynnig erthyglau dethol' i archifau'r dudalen.

Gofynion erthygl ddethol[golygu cod]

Dylai erthygl ddethol:

  • fod yn ffeithiol gywir
  • gyfeirio at o leiaf un ffynhonnell
  • gael ei hysgrifennu mewn Cymraeg cywir ac eglur
  • bod ynddi berspectif Cymreig yn ogystal ag un byd-eang
  • fod o leiaf 4 paragraff o hyd ac yn trin y testun yn gyflawn
  • fod yn ddiduedd.

Hefyd argymhellir y canlynol:

  • dylai'r categorïau ar waelod yr erthygl ffurfio cadwyn gyflawn. Hynny yw, ni ddylai cadwyn diweddu â chategori coch.
  • dylai'r dolenni rhyngwici arwain yn syth at yr erthygl gyfatebol yn yr ieithoedd eraill.
  • dylai lleiafrif o ddolenni'r erthygl fod yn rhai coch.
  • dylid cynnwys llyfryddiaeth, os yn bosib.
  • Dylai'r cysylltiadau at wefannau allanol weithio.

Ymhelaethu ar y gofynion[golygu cod]

  • Cyfeirio at o leiaf un ffynhonnell
    Gorau i gyd po fwyaf o ffynonellau sy'n cael eu henwi yn yr erthygl. Rhoddir mwy o werth ar ffynonellau gwreiddiol, megis hunangofiant, nac ar rai ail-law, megis gwyddoniadur arall. Lle nad yw ffynhonnell y darpar erthygl ddethol wedi ei nodi gellir holi i'r cyfrannwr gwreiddiol am gyfeiriadau.
  • Trin y testun yn llawn.
    Ni ddylai'r erthygl fod yn gamarweiniol oherwydd bod bylchau amlwg yn yr ymdriniaeth â'r testun.
  • Cynnwys llyfryddiaeth. Mae'r gallu i gyfeirio'r darllenydd at wybodaeth bellach ar bwnc y testun yn un o ragoriaethau Wicipedia. Byddai llyfryddiaeth gynhwysfawr yn cynnwys cyfeiriadau at ddeunydd ar bapur ac ar y we, gyda'r pwyslais pennaf ar ddeunydd Cymraeg. Cynhwysir llyfryddiaeth Saesneg perthnasol hefyd, er budd y darllenydd. Gellir ychwanegu nodiadau defnyddiol at y llyfryddiaeth yn egluro pa agwedd ar y pwnc a drafodir ag ati. Ar yr un pryd, mae' well peidio â boddi'r erthygl mewn rhestr hirfaith o gyfeiriadau.
  • Golygu cyfieithiadau o Wicipedia mewn iaith arall. Nid yw'r gofynion adolygu o reidrwydd namyn gwahanol i'r arfer pan yw Wicipedia mewn iaith arall yn ffynhonnell y darpar erthygl ddethol. Ond pan mae'r erthygl mewn iaith arall eisoes yn erthygl ddethol ar y Wicipedia arall yna mae modd cwtogi rhywfaint ar y gwaith golygu. Cyhyd â bod ffeithiau'r cyfieithiad yn cyfateb i ffeithiau'r gwreiddiol a bod prif bwyntiau'r gwreiddiol yn bresennol yn y cyfieithiad does dim rhaid gwirio'r ffeithiau i'r ffynonellau gwreiddiol eto.

Esiamplau o erthyglau 'Da' ar wicis eraill[golygu cod]