Hanes y Gymraeg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae hanes y Gymraeg yn rhychwantu dros 1400 mlynedd, gan gynnwys cyfnod dechrau'r iaith a elwir yn Hen Gymraeg, Cymraeg Canol, a Chymraeg Fodern Ddiweddar.

Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 S4C Beibl Cymraeg Cymraeg Canol Hen Gymraeg

Y Cefndir Celtaidd a Rhufeinig[golygu]

Mae cryn ansicrwydd pa bryd y cyrhaeddodd y Celtiaid neu eu hiaith a’u diwylliant ynysoedd Prydain.[1] Nid oedd arysgrifau yn cael eu hysgrifennu ar henebion ym Mhrydain bryd hynny, heblaw am arysgrifau’r Pictiaid.[2] Ymhlith y niferoedd lawer o ddamcaniaethau hawlia rhai arbenigwyr fod y Celtiaid wedi cyrraedd tua 2000 CC. Dadleua eraill iddynt gyrraedd Prydain ac Iwerddon ynghynt fyth gyda lledaeniad amaethyddiaeth ar draws Ewrop. Dadleua eraill bod goresgynwyr Celtaidd wedi dod â’u diwylliant a’u hiaith ganddynt wedi 700 CC, gan ddisodli’r brodorion, er bod tystiolaeth enetig erbyn hyn i wrthddweud y syniad hwn. Y ddamcaniaeth a gaiff y gefnogaeth fwyaf ar hyn o bryd yw’r ddamcaniaeth mai'r iaith Geltaidd a'i diwylliant a ymledodd yn hytrach na'r bobl. Ymledodd yn raddol ar draws rhannau helaeth o Ewrop o’r tiroedd rhwng afonydd Donaw a Rhein, gan gael ei chymathu gan y brodorion. Tybir y gallasai masnachwyr Parthau Môr Iwerydd yng nghanrifoedd olaf Oes y Pres fod yn ffactor bwysig yn y lledu hwn, gan iddynt efallai ddefnyddio Celteg yn 'lingua franca'.

Ni wyddys faint o olion yr ieithoedd cyn-Geltaidd a erys yn y Gymraeg. Prin yw’r geiriau cyn-Geltaidd y tybir iddynt oroesi yn Gymraeg heblaw am ambell i enw lle. Awgrymir gan rai bod treigladau'r ieithoedd Celtaidd yn tarddu o’r ieithoedd cyn-Geltaidd, ond nid oes prawf o hyn.

Gwyddys mai tafodieithoedd y Frythoneg a siaredid dros fwyafrif Ynys Prydain pan gyrhaeddodd y Rhufeiniaid yn ystod y ganrif gyntaf. Daeth newidiadau dirfawr yn sgil dyfodiad y Rhufeiniaid. Yr oedd llawer ym Mhrydain yn ddwyieithog mewn Lladin a Brythoneg, yn enwedig ar iseldiroedd de Prydain, yn yr ardal sifil Rufeinig (gan gynnwys de-ddwyrain Cymru) a elwid yn ‘Civitas’. Lladin oedd iaith dysg mwy na thebyg a'r brif iaith weinyddol, ac iaith lafar yn unig oedd y Frythoneg. Benthycwyd geirfa helaeth o'r Lladin i'r Frythoneg. Ond nid oedd dylanwad Lladin ar Frythoneg gymaint ag ydoedd dylanwad Lladin ar ieithoedd Celtaidd eraill yr Ymerodraeth Rufeinig. Yr oedd gafael yr Ymerodraeth Rufeinig a'r Lladin fel ei gilydd ym Mhrydain yn llai nag ydoedd yng Ngâl. Wedi i’r Rhufeiniaid adael fe gollodd Lladin ei thir fel iaith lafar ym Mhrydain, er iddi barhau’n iaith ysgrifenedig.

Ar yr un pryd yr oedd y Frythoneg yn cael ei thrawsnewid. Gyda dyfodiad y Rhufeiniaid roedd y Frythoneg wedi colli ei statws o fod yn brif iaith arweinyddiaeth rhannau helaeth o Brydain. Roedd presenoldeb iaith arall, sef Lladin, yn ychwanegu at ansefydlogi strwythur y Frythoneg. Cyrhaeddodd Cristnogaeth Brydain yn ystod y cyfnod hwn, gan wanhau awdurdod a dylanwad offeiriaid yr hen grefydd. Yr offeiriaid oedd ceidwaid traddodiad, gan gynnwys dulliau ieithyddol traddodiadol. Yn ystod arhosiad y Rhufeiniaid a'r ddwy ganrif wedi iddynt ymadael bu i ffurfiau gramadegol y Frythoneg ddadfeilio'n helaeth a ffurfiau newydd ddatblygu sy'n nodweddiadol o'r Gymraeg.

Trawsnewidiad y Frythoneg i'r Gymraeg[golygu]

Gan nad oedd y Frythoneg yn iaith ysgrifenedig tystiolaeth anuniongyrchol yn unig sydd i'r newidiadau a ddigwyddodd iddi.[3][4] Yn fras mae ieithyddion wedi dyfalu bod enwau ac ansoddeiriau wedi colli eu terfyniadau a ffurfiau gwrthrychol, genidol, derbyniol ac ati a oedd yn nodweddu ieithoedd Indo-Ewropeg Gorllewinol yr adeg honno. Roedd gan enwau yn y Frythoneg ffurfiau unigol, deuol a lluosog. Dim ond un ffurf unigol ac un luosog sydd gan y Gymraeg, ac ambell i ffurf ddeuol megis dwylo. Roedd cenedl enw Brythoneg yn wrywaidd, benywaidd neu'n ddiryw. Collwyd y genedl ddiryw yn ystod dirywiad y Frythoneg. Datblygodd terfyniadau newyddion neu newidiadau yn llafariaid bôn y gair i wahaniaethu rhwng geiriau unigol a lluosog, e.e. bardd/beirdd. Cafwyd llawer o newidiadau seiniol. Gellir dirnad proses ffurfio patrymau treiglad yn y newidiadau seiniol.

Oherwydd y diffyg tystiolaeth ysgrifenedig ni ellir dweud yn sicr pryd y cafodd trawsnewidiad y Frythoneg i Gymraeg Cynnar ei gwblhau. Mae'r arysgrif Gymraeg cynharaf sydd wedi goroesi yn dyddio o tua 700 O.C.. Fe'i cheir ar faen coffa sydd yn awr yn eglwys Tywyn, Meirionnydd. Er bod rhai yn meddwl y gallasai'r Gymraeg fod wedi ymwahanu'n bendant o'r Frythoneg yn gynnar yn y chweched ganrif, mae'r rhan fwyaf o ysgolheigion yn amcangyfrif bod oes Cymraeg Cynnar yn dechrau yn ail hanner y chweched ganrif.

Cymraeg Cynnar[golygu]

Arysgrif Cymraeg o ddechrau'r 8fed ganrif, ar faen yn Eglwys Sant Cadfan, Tywyn

Gelwir y cyfnod rhwng dechrau'r Gymraeg tua hanner olaf y 6ed ganrif (gweler uchod) hyd at ddiwedd yr 8fed ganrif yn oes Cymraeg Cynnar. Dim ond ambell i arysgrif ar feini sydd wedi goroesi o'r cyfnod hwn.[3] Fe gynnwys gwaith Beda, Hanes Eglwysig Cenedl yr Eingl, a ysgrifennwyd ar ddechrau'r wythfed ganrif, ac ambell i enw lle Cymraeg. Mae'r enghraifft gynharaf o Gymraeg mewn llawysgrif sydd wedi goroesi i'w chael yn Llyfr Sant Chad, a gedwir yn eglwys gadeiriol Caerlwytgoed (Lichfield). Gweithred gyfreithiol yw'r darn, a elwir yn gofnod surexit ar ôl y gair cyntaf o'r testun, ac a gopïwyd ar ddiwedd yr 8fed ganrif o weithred Gymraeg o'r 6ed ganrif. O'r ffynonellau hyn y tardd yr ychydig wybodaeth sydd gennym am Gymraeg Cynnar.

Hen Gymraeg[golygu]

Gelwir y cyfnod rhwng y 9fed ganrif a diwedd yr 11eg ganrif yn gyfnod Hen Gymraeg. Mae glosau, sef nodiadau Cymraeg ymyl y ddalen ar destunau Lladin, o'r cyfnod hwn wedi goroesi. Mae rhai o'r llawysgrifau a ysgrifennwyd o'r 12fed ganrif ymlaen naill ai wedi eu copïo o lawysgrifau hŷn neu yn gofnod o draddodiad llafar hŷn, e.e. Llyfr Llandaf (a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru), yr Annales Cambriae (cedwir un fersiwn o hwn yn y Public Record Office (PRO) a dau fersiwn yn y Llyfrgell Brydeinig) yn Llundain, a gwaith y Cynfeirdd.

Mae'r darnau ysgrifenedig hyn yn cynnig tystiolaeth o fath ynglŷn â'r Gymraeg yn y cyfnod hwn. Eto amwys yw'r dystiolaeth i raddau gan na wyddom ai synau'r Gymraeg sydd wedi newid ynteu'r ffordd y cyflëir y synau hyn ar bapur. Rhaid bod yn ofalus wrth dynnu casgliadau o'r dystiolaeth ysgrifenedig brin. Yn y llawysgrifau ni cheir treiglad ar ddechrau gair byth, a phrin yw'r enghreifftiau o gyfnewidiadau seiniol yng nghanol neu ar ddiwedd gair, e.e. atar (adar), nimer (nifer), douceint (deugain), merc (merch), trucarauc (trugarog). Ceir gu ynghanol gair, sydd yn w-gytsain erbyn heddiw, e.e. petguar (pedwar). Fe dybir nad oedd y gyfundrefn dreigladau ar ddechrau geiriau sydd gennym heddiw ddim eto wedi datblygu'n llawn yn y Gymraeg na'r cyfnewidiadau seiniol mewnol, megis t i d yn atar/adar, eto wedi eu cwblhau. Ond y mae'n bosib bod geiriau yn cael eu treiglo ar lafar ond mai'r ffurf gysefin yn unig a ysgrifennid, neu fod y ffordd o yngan y cytseiniaid wedi newid ers hynny. Digwydd oi neu ui lle yr yngenir wy heddiw, e.e. oith (wyth), troi (trwy), bloidin (blwyddyn), notuid (nodwydd). Ceir ou sydd heddiw'n eu neu au, e.e. hithou (hithau), nouodou (neuaddau). Nid oedd Hen Gymraeg eto wedi magu y ar flaen geiriau'n dechrau ag s a chytsain arall megis stebill (ystafell), strat (ystrad). Safle'r acen yn y Frythoneg oedd ar y sill cyn yr olaf. Pan gollid terfyniadau Brythoneg, hynny yw'r sill olaf, fe fyddai’r acen ar y sill olaf o'r gair newydd, e.e. trīnĭtātem i trindáwd, a'r acen ar y sill olaf –áwd (dynoda ΄ safle'r brif acen). Yna rhywbryd tua diwedd cyfnod yr Hen Gymraeg symudodd yr acen i'r sill cyn olaf i roi tríndawd. Wedi cyfnod yr Hen Gymraeg gwanhawyd yr aw oedd bellach yn ddiacen i o gan roi'r gair modern trindod. Ha a hac oedd ein ac a'n a ni megis mewn gweithred sy'n sôn am 'douceint torth ha maharuin in ir ham ha douceint torth in ir gaem' (deugain torth a maharen yn yr haf a deugain torth yn y gaeaf).

Cymraeg Canol[golygu]

Gelwir y cyfnod rhwng y 12fed ganrif a diwedd y 14eg ganrif yn gyfnod Cymraeg Canol. Ymhlith y gweithiau a ysgrifennwyd mewn Cymraeg Canol mae'r Mabinogi, Cyfraith Hywel Dda, a barddoniaeth y Gogynfeirdd. Ceir tystiolaeth am ddatblygiad y Gymraeg yn rhyddiaith y cyfnod a hefyd yng ngwaith y Gogynfeirdd o'r adeg hon. Eto amwys yw peth o'r dystiolaeth hon, gan fod y Gogynfeirdd yn cadw at batrymau traddodiadol. Defnyddient gystrawen a geirfa hynafol. Gwelir hyn wrth gymharu eu hiaith â rhyddiaith y cyfnod. Yn ystod y cyfnod hwn y cafwyd benthyg termau o'r Ffrangeg a'r Lladin, yn rhannol gan fod cyfieithu gweithiau i'r Gymraeg yn dod yn gyffredin. Wedi'r cyfnod hwn y collwyd rhai o ffurfiau'r ferf a rhai o ffurfiau personol yr arddodiaid. Ceir y terfyniadau –wŷs, -ws, -es, ar gyfer trydydd person unigol yr amser gorffennol mewn Cymraeg Canol yn ogystal â'r ffurf –odd. Erbyn heddiw dim ond y terfyniad –odd a erys mewn Cymraeg ysgrifenedig safonol. Wedi dweud hynny mae'r ffurf -ws yn parhau ar lafar yn y De-ddwyrain. Erys y ffurf -as a ysgrifennid ar ddechrau'r cyfnod diweddar ar lafar y De yn cas, yn golygu cafodd. Dengys hyn eto pa mor anodd yw cyffredinoli a thynnu casgliadau am yr iaith lafar o'r dystiolaeth ysgrifenedig sy'n weddill i ni.

Erbyn heddiw trefn elfennau'r frawddeg seml Gymraeg yw berf yna goddrych yna gwrthrych. Ond hyd at yr Oesoedd Canol roedd hi hefyd yn bosib trefnu brawddeg seml drwy osod y goddrych yn gyntaf ac yna'r ferf ac wedyn y gwrthrych. Mae'n bosib bod hepgor y gystrawen hon wedi digwydd ar lafar ynghynt nag y digwyddodd mewn llenyddiaeth. Hyd at yr Oesoedd Canol gallasai'r ferf mewn brawddeg seml fod yn unigol neu'n lluosog o flaen goddrych lluosog. Erbyn heddiw dim ond trydydd person unigol berf a ddefnyddir mewn brawddeg seml heb fod â rhagenw personol yn oddrych iddi. Arferid 'cenynt gerddorion' yn ogystal â 'canai cerddorion' yn yr Oesoedd Canol ond erbyn hyn dim ond y ffurf 'canai cerddorion' a arferir.

Cymraeg Fodern Gynnar[golygu]

Parhâi cyfnod Cymraeg Fodern Gynnar o ddechrau'r 14eg hyd at ddiwedd y 16eg ganrif. Daeth newid cymharol sydyn i Gymraeg y beirdd wrth i Ddafydd ap Gwilym fabwysiadu ffurf newydd y cywydd a'i ysgrifennu yn yr iaith fyw yn y 14eg ganrif yn hytrach nag yn iaith geidwadol y Gogynfeirdd. Ond daeth tro ar fyd yn nes ymlaen yn y cyfnod hwn wrth i ryfel a dechrau lleihad yn nawdd yr uchelwyr i'r beirdd achosi dirywiad yn y gyfundrefn farddol a chymdeithasol. Yn yr Oesoedd Canol roedd y gyfundrefn farddol yn sicrhau rhywfaint o unoliaeth ar ffurf lenyddol y Gymraeg. Eto nid oedd y Gymraeg yn unffurf gan fod ysgolheigion sy'n astudio'r Oesoedd Canol yn gallu dirnad tarddiad daearyddol llawysgrif o'r amrywiadau tafodieithol a geir ynddi. Ond erbyn y 16eg ganrif, heb gyfundrefn gref i osod safon y gellid glynu wrthi, roedd yr amrywiadau lleol wedi amlhau gymaint fel bod rhai yn achwyn eu bod yn cael trafferth i ddeall ysgrifau cyfoes o ardal arall.

Cymraeg Fodern Ddiweddar[golygu]

Cyfrifir bod Cymraeg Fodern Ddiweddar yn dechrau gyda chyfieithiad William Morgan o'r Beibl a gyhoeddwyd ym 1588 ac a ddiwygiwyd ym 1620.[5] Defnyddiai William Morgan eirfa gyfoes lafar lle medrai, gan fathu termau lle byddai rhaid. Wrth fathu termau byddai'n benthyca o'r Hebraeg, Lladin neu'r Saesneg neu yn bathu gair cyfansawdd o elfennau symlach Cymraeg eu tarddiad megis gwrthglawdd, gwrthryfel, arogldarth, caethglud, cyntaf-anedic (sillafiad William Morgan). Byddai'n defnyddio termau a fodolai yn ysgrifau crefyddol yr Oesoedd Canol hefyd ond yn osgoi'r termau hynny a fagodd gysylltiadau â'r Eglwys Gatholig a'r termau hynny oedd wedi eu disodli gan derm arall. Amcan ei ddewis o eirfa oedd eglurder ystyr. Defnyddiai briod-ddulliau urddasol. Weithiau byddai'n cyfieithu priod-ddull Hebraeg air am air. Bryd arall ceisiai gadw naws delynegol barddoniaeth y gwreiddiol drwy ddefnyddio ffurfiau a arferid yn y cywyddau Cymraeg. Defnyddiai ffurf 'annormal' y frawddeg (patrwm goddrych neu wrthrych neu adferf + geiryn perthynol + berf, megis yn 'A Duw a alwodd y goleuni yn ddydd') a gydymffurfiai â phatrwm 'gramadeg' Lladinaidd yr ystyrid ei bod yn well ffurf na ffurf 'normal' y frawddeg a geid ar lafar. Roedd rhai agweddau ar Gymraeg William Morgan felly yn hen ffasiwn. Gan i'r Beibl hwn gael ei dderbyn ym mhob cwr o Gymru bu'n fodd i angori'r iaith lenyddol ac arafu ei datblygiad. Drwy ddolen gyswllt Beibl 1588 mae modd i siaradwyr Cymraeg modern ddeall barddoniaeth Cymraeg Canol ond iddynt gael gwybod ystyr rhai geiriau nas arferir bellach neu sydd wedi newid eu hystyr.

Ar yr un pryd cafwyd adennill unoliaeth y Gymraeg llenyddol a symleiddio eto ar ffurfiau'r ferf a'r arddodiaid a safoni'r patrymau treiglo. Roedd modd i'r rhai a ddefnyddiai iaith Beibl William Morgan ddeall ei gilydd ledled Cymru gyfan, ar bapur o leiaf. Beibl William Morgan fyddai defnydd pennaf ysgolion cylchynol y 18fed ganrif a ddaeth â llythrennedd i drwch gwerin Cymru.

Mae'r Gymraeg wedi gweld llawer o newidiadau yn ei phriod-ddulliau drwy'r oesau. Dyma rai enghreifftiau ohonynt:[3]

Priod-ddull y gorffennol Priod-ddull cyfoes
Metha gennyf fynd Methaf fynd, rwy’n methu mynd
Bath ar, newidiodd i math ar       Math o
Arfer o fynd ar ffrind Arfer mynd at ffrind
Dyfod arno Dyfod ato

Yn y 19eg ganrif dyfeisiwyd system ddegol ar gyfer y rhifolion (ond nid y trefnolion).[6] Ond er i'r system newydd gael derbyniad ni ddiflannodd yr hen drefn rhifolion ugeiniol. Defnyddir y naill system a'r llall fel ei gilydd ar lafar ac ar bapur byth oddi ar hynny.

Mae'r Gymraeg wedi benthyca geiriau o'r Saesneg ers dyfodiad y Saeson i Loegr. Ond ers twf dwyieithrwydd yng Nghymru mae dylanwad y Saesneg wedi dwysáu, ac mae llu o eiriau a phriod-ddulliau Saesneg wedi ymddangos yn y Gymraeg. Siarad ac ysgrifennu Saesneg yn y Gymraeg yw enw'r ieithyddion ar y broses o ddefnyddio gramadeg Saesneg wrth siarad ac ysgrifennu Cymraeg.[7]

Mae'r newidiadau i'r Gymraeg yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf wedi bod yn mynd ar garlam, a llu o eiriau newydd yn cael eu bathu wrth i'r Gymraeg ehangu ei defnydd i feysydd sydd wedi bod yn anghyfarwydd iddi ers rhai canrifoedd. Mae ei phriod-ddulliau hefyd yn newid yn gyflymach ar hyn o bryd nag y maent wedi gwneud ers oesoedd. Trafodir y newidiadau hyn gan Dafydd Glyn Jones yn ei ddarlith Dal y Geiriau Ynghyd.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. John Davies, Hanes Cymru (The Penguin Press, 1990)
  2. Nid oes neb yn siŵr a siaradai'r Pictiaid iaith cyn-Gelteg ynteu Gelteg. Erbyn hyn dadleua mwyafrif yr ysgolheigion mai iaith Gelteg a siaradai'r Pictiaid.
  3. 3.0 3.1 3.2 Henry Lewis, Datblygiad yr Iaith Gymraeg (Prifysgol Cymru, 1931)
  4. Yn ystod y 19eg ganrif ail-ddechreuwyd astudio hanes datblygiad ieithoedd a'r perthynas rhyngddynt. Defnyddiwyd y dystiolaeth ysgrifenedig oedd ar gael a'i gymharu ag ieithoedd eraill yn dyddio o'r un adeg hanesyddol a dilyn hynt iaith ar hyd yr oesau. O ddeall patrymau newid ieithyddol mae modd ail-lunio ieithoedd diflanedig. Technegau ieitheg gymharol, yn adeiladu ar dystiolaeth enwau llefydd a phobl Frythonig ac ambell i enw cyffredin a gofnodwyd yn Lladin neu yng Ngroeg, sydd wedi galluogi ieithyddion i ddirnad peth o eirfa a gramadeg y Frythoneg.
  5. Isaac Thomas, William Morgan a'i Feibl (Prifysgol Cymru, 1988)
  6. Peter Wynn Thomas, Gramadeg y Gymraeg (Gwasg Prifysgol Cymru, 2006)
  7. Llawlyfr Glowi Iaith, t (Canolfan Bedwyr, 2008)