Demograffeg Cymru

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Yn ôl Cyfrifiad 2001 yr oedd 2,903,085 o bobl yn byw yng Nghymru, 1,403,782 ohonynt yn wrywod a 1,499,303 yn fenywod; roedd hwn yn gynnydd o 1% ers cyfrifiad 1991. Mae gan Gymru boblogaeth sy'n heneiddio; roedd y cyfartaledd oedran yn 2001 yn 36 o'i gymharu â 34 yn 1981.[1]

Crefydd[golygu]

Prif erthygl: Crefydd yng Nghymru.

Gwlad draddodiadol Gristnogol yw Cymru, â thua 70% o'i phoblogaeth yn cydnabod eu hunain fel Cristnogion. Tan 1920 yr Eglwys Anglicanaidd oedd yr eglwys sefydledig yng Nghymru, ond yn y flwyddyn honno datgysylltwyd yr Eglwys yng Nghymru oddi wrth Eglwys Loegr, yn dilyn dros 60 mlynedd o ymgyrchu gan anghydffurfwyr.

Mae Cristnogaeth ar ei huchaf yng Ngogledd ac ardaloedd gwledig Cymru. Mae bron 20% o Gymry yn disgrifio eu hunain yn anghrefyddol, gyda'r lefelau uchaf yn y De. Mae Islam ar dwf yng Nghymru, yn enwedig yng Nghaerdydd a Chasnewydd, ac mae lleiafrifoedd Bwdhaidd, Hindŵaidd, Iddewig, a Sicaidd yn bodoli, gyda'r mwyafrif o ddilynwyr y crefyddau yma yn byw yn y brifddinas Caerdydd.

Ethnigrwydd[golygu]

Siart cylch yn dangos ethnigrwydd yng Nghymru

Wiki letter w.svg   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Iaith[golygu]

Prif erthygl: Ieithoedd Cymru.

Cymraeg a Saesneg yw ddwy brif iaith Cymru: Cymraeg yw iaith frodorol y wlad, ac fe'i siaradir gan ryw 20% o'r boblogaeth, ond Saesneg yw iaith y mwyafrif o'r boblogaeth ers troad yr ugeinfed ganrif. Mae bron 100% o'r rhai sy'n rhugl yn y Gymraeg yn medru'r Saesneg hefyd. Wenglish yw'r enw a ddefnyddir weithiau i ddisgrifio'r dafodiaith Saesneg a siaredir yng Nghymru.

Hanes demograffig[golygu]

Wiki letter w.svg   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1.  Pobologaeth Cymru'n heneiddio. BBC Cymru'r Byd (8 Ionawr, 2004). Adalwyd ar 5 Mehefin, 2008.

Cysylltiadau allanol[golygu]