Ymneilltuaeth yng Nghymru

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Capel Ymneilltuol yn y Gyffin, ger Conwy, gogledd Cymru

Mae ymneilltuaeth yng Nghymru (neu Anghydffurfiaeth) wedi bod yn ddylanwad mawr ar fywyd y genedl Gymreig ers yr 16eg ganrif. Mae ei gwreiddiau i'w cael yn y Diwygiad Protestannaidd pan dorrodd nifer o wledydd yng ngogledd Ewrop yn rhydd o awdurdod yr Eglwys Gatholig.

Y Cymro Anghydffurfiol cyntaf o bwys oedd John Penry, a ferthyrwyd yn 1593. Yr eglwys Anghydffurfiol gyntaf yn y wlad oedd honno yn Llanfaches (Sir Fynwy) a sefydlwyd gan yr Annibynwyr yn 1639.

Ym myd gwleidyddiaeth tueddai'r Anghydffurfwyr cynnar i osgoi ymyrryd yn uniongyrchol yn y byd a'i bethau (heblaw mewn materion eglwysig). Am gyfnod gellid dweud fod Ymneilltuaeth Gymreig wedi bod yn geidwadol ond erbyn y 19eg ganrif dechreuai Ymneilltuwyr chwarae rhan gynyddol bwysig yng ngwleidyddiaeth y wlad ac erbyn ail hanner y ganrif honno tueddai'r achos Ymneilltuol i fod ynghlwm wrth Radicaliaeth a'r alwad i Ddatgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru a hunanlywodraeth (neu Ymreolaeth) i Gymru. Un o ganlyniadau hyn oedd ffurfio mudiadau radicalaidd fel Cymru Fydd a chwyddo'r gefnogaeth i Ryddfrydiaeth.

Roedd cyfraniad awduron Anghydffurfiol i lenyddiaeth Gymraeg yn sylweddol iawn, ac er i'r enwadau dueddu i fod yn gul eu gorwelion llenyddol (yn erbyn y nofel, er enghraifft), esgorodd Anghydffurfiaeth ar rai o lenorion pwysicaf y Gymraeg, fel Morgan Llwyd, Ann Griffiths, William Williams Pantycelyn, Daniel Owen ac Owen Morgan Edwards.

Llyfryddiaeth [golygu]

  • James Evans (gol.), Dylanwad Ymneilltuaeth ar Fywyd y Genedl (1913)
  • R.M. Jones, Llên Cymru a Chrefydd (1977)
  • R.I. Parry, Ymneilltuaeth (1962)
  • T. Rees, History of Protestant Nonconformity in Wales (1861)
Cruz template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Baner CymruEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.