Llenyddiaeth Saesneg Cymru
Er bod gan Gymru boblogaeth Saesneg eu hiaith bur sylweddol cyn yr ugeinfed ganrif, a rhai ohonynt yn ysgrifennwyr o fri, er enghraifft George Herbert (1593-1633), ni ystyriwyd Llenyddiaeth Saesneg Cymru - a adnabyddir mewn Saesneg naill ai fel Anglo-Welsh Writing neu Welsh Writing in English - fel math o ysgrifennu ar wahân i lenyddiaeth Saesneg neu lenyddiaeth yn yr iaith Gymraeg tan i fwy o ysgrifennwyr yn yr ugeinfed ganrif ddechrau ysgrifennu pethau mewn Saesneg oedd yn dal i fod yn Gymreig eu safbwynt neu am brofiadau Cymreig.
Oherwydd eu bod yn ysgrifennu mewn iaith â mwy o bobl yn ei deall, mae ysgrifennwyr Llenyddiaeth Saesneg Cymru yn aml wedi llwyddo i ddenu cynulleidfaoedd llawer mwy na'u cyd-wladwyr sy'n ysgrifennu yn yr iaith Gymraeg yn unig. Dwy enghraifft adnabyddus o hyn yw'r beirdd byd-enwog Dylan Thomas ac R.S. Thomas.
Cynnwys |
Rhai o ysgrifennwyr enwog Llenyddiaeth Saesneg Cymru [golygu]
Barddoniaeth [golygu]
- Alun Lewis (1915-44)
- Dylan Thomas (1914-53)
- R.S. Thomas (1913-2000)
Rhyddiaith [golygu]
- Lewis Jones (1897-1939)
- Alexander Cordell (1914-97)
- Glyn Jones (1905-1995)
- Emyr Humphreys (1919-)