Demograffeg y Swistir

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Saif y Swistir yng nghanolbarth Ewrop, ac mae'n fan cyfarfod i nifer o ddiwylliannau Ewrop, gan fod y wlad yn ffinio â Ffrainc, yr Almaen a'r Eidal. Mae 75% o'r boblogaeth yn byw ar y llwyfandir yng nghanol y wlad, rhwng yr Alpau a mynyddoedd y Jura ac o ddinas Genefa yn y gorllewin hyd afon Rhein a'r Bodensee yn y gogledd-ddwyrain. Mae gan y wlad safon byw gyda'r uchaf yn y byd.

Ceir nifer sylweddol o drigolion nad ydynt yn ddinasyddion y Swistir; 1,524,663 (20.56%) yn 2004, o'i gymharu a tua 5.9 miliwn o ddinasyddion yr un flwyddyn. Roedd tua 623,100 o ddinasyddion y Swistir yn byw mewn gwledydd eraill, y nifer fwyaf yn Ffrainc (166,200).

O ran crefydd, disgrifiai 5.78 miliwn (79.2%) o'r trigolion eu hunain fel Cristnogion yn 2000 (Catholig 41.8%, Protestaniaid 35.3%, Eglwys Uniongred 1.8%). Roedd 809,800 (11.1%) heb grefydd, 310,800 (4.3%) yn ddilynwyr Islam a 17,900 (0.2%) yn Iddewon.

Dinasoedd[golygu]

Dinasoedd mwyaf y Swistir yn ôl poblogaeth yw:

Zürich
Genefa
Rhif Enw 1995 2000 2005 2006 Canton
1. Zürich 343869 337900 347517 350125 Zürich
2. Genefa 173549 174999 178722 178603 Genefa
3. Basel 174007 166009 163930 163081 Basel Ddinesig
4. Bern 127469 122484 122178 122422 Bern
5. Lausanne 115878 114889 117388 118049 Vaud
6. Winterthur 87654 88767 93546 94709 Zürich
7. St. Gallen 71877 69836 70316 70375 St. Gallen
8. Lucerne 58847 57023 57533 57890 Lucerne
9. Lugano 26000 25872 49223 49719 Ticino
10. Biel 50733 48840 48735 49038 Bern
11. Thun 39094 39981 41138 41177 Bern
12. Köniz 36335 37196 37250 37226 Bern
13. La Chaux-de-Fonds 37375 36747 36809 36713 Neuchâtel
14. Schaffhausen 34073 33274 33569 33459 Schaffhausen
15. Fribourg 32501 31691 33008 33418 Fribourg
16. Chur 30091 31310 32409 32441 Graubünden
17. Neuchâtel 31768 31639 32117 32333 Neuchâtel
18. Vernier 28423 28727 30020 30606 Genefa
19. Uster 26139 27893 29855 30144 Zürich
20. Sion 26065 27145 28510 28633 Valais

Ieithoedd[golygu]

Ieithoedd swyddogol cantonau y Swistir.

Ceir nifer o ieithoedd swyddogol yn y Swistir. Almaeneg yw mamiaith y nifer fwyaf o'r trigolion, 63.7% yn ôl cyfrifiaf 2000. O 26 canton y Swistir, Almaeneg yw iaith 17 ohonynt. Siaredir nifer o dafodieithoedd o Almaeneg y Swistir, Schwyzerdütsch, a dim ond yn y sefyllfaoedd mwyaf ffurfiol y defnyddir Almaeneg safonol (Hochdeutsch).

Siaredir Ffrangeg fel mamiaith gan 20.4% o'r boblogaeth, yng ngorllewin y wlad yn bennaf. Ffrangeg yw iaith swyddogol pedwar canton: Genefa, Jura, Neuchâtel a Vaud, gyda thair arall yn ddwyieithog gyda Ffrangeg un un o'r ieithoedd swyddogol. Siaredir Eidaleg fel iaith gyntaf gan 6.5%, yn y de yn bennaf, ac mae'n iaith swyddogol canton Ticino. Siaredir Romaunsch gan 0.5%, yn bennaf yng nghanton Grisons. Roedd tua 9% a mamiaith nad oedd yn un o ieithoedd swyddogol y Swistir.