Cyfraith Gyfoes Cymru
| Cymru |
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres ar: |
|
|
|
Cymru o fewn y DU
Cymru o fewn yr UE
Gweithgarwch gwleidyddol
|
|
|
Cyfraith Gyfoes Cymru yw'r term swyddogol am y drefn gyfreithiol newydd sy'n caniatau i'r Cynulliad Cenedlaethol greu deddfau yng Nghymru. Bydd pob deddfwriaeth newydd yn cael ei hadnabod fel 'Mesur'.
Cymru'r Gyfraith[golygu]
Yn ogystal, ar 1 Ebrill 2007 dileuwyd yr hen uned gyfreithiol ddaearyddol a elwyd yn 'Gylchdro Cymru a Chaer' (Wales and Chester Circuit) - a oedd wedi bodoli ers cyfnod Y Deddfau Uno - ac o hyn allan defnyddir yr enw 'Cylchdro Cymru'. Bydd Caer o hyn allan yn rhan o Gylchdro Gogledd-orllewin Lloegr. Mae hyn yn newid arwyddocaol iawn; dyma'r tro cyntaf ers amser Owain Glyndŵr i Gymru gael ei thrin fel uned gyfreithiol ynddi ei hun, yn hytrach na fel atodiad i ran o Loegr. I ddiffinio'r sefyllfa mae term newydd arall wedi'i fathu, gan y Barnwr Roderick Evans ac eraill, sef Cymru'r Gyfraith (Saesneg: Legal Wales).