Emrys Wledig

Oddi ar Wicipedia

Roedd Emrys Wledig (Lladin Ambrosius Aurelianus, a elwir yn Aurelius Ambrosius yn yr Historia Regum Britanniae) yn arweinydd y Brythoniaid yn y 5g a enillodd fuddugoliaethau pwysig dros y Saeson.

Ceir y wybodaeth gyntaf am Emrys gan Gildas yn ei draethawd De Excidio Britanniae. Dywed Gildas fod Emrys o deulu Rhufeinig, a'i fod wedi casglu lluoedd ynghyd i wrthwynebu'r Saeson, gan ennill buddugoliaethau yn eu herbyn. Roedd Gildas, yn ysgrifennu o leiaf genhedlaeth ar ôl Emrys, yn ei ganmol yn fawr; yn wahanol iawn i'w gondemniad hallt o arweinwyr y Brythoniaid yn ei oes ef ei hun. Ymhlith y manylion y mae Gildas yn ei roi am Emrys yw ei fod o deulu "oedd wedi gwisgo'r porffor". Mae rhai wedi awgrymu fod hyn yn golygu fod gan y teulu gysylltiad a rhyw ymerawdwr.

Awgryma rhai ysgolheigion, o astudiaeth o'r brif lawysgrif o'r De Excidio Britanniae, "British Library, Cotton Vitellius A.vi", fod Gildas mewn gwirionedd yn priodoli'r fuddugoliaeth ym Mrwydr Mynydd Baddon i Emrys.[1]

Mae rhywfaint mwy o fanylion am Emrys gan Nennius yn ei Historia Britonum. Ef sy'n adrodd y chwedl adnabyddus sy'n gysylltiedig a Dinas Emrys, sef bod Gwrtheyrn yn ceisio adeiladu caer ond yn methu. Dywedodd ei wŷr doeth wrtho fod rhaid arllwys gwaed bachgen heb dad dros y seiliau. Ceir hyd i fachgen felly yng Nghaerfyrddin, a phan ddygir ef at y brenin, dywed mai Ambrosius yw ei enw. Mae'r bachgen yn dangos i'r brenin fod llyn oddi tan y gaer lle mae dwy ddraig yn byw, draig goch a draig wen, ac mai hwy sy'n achosi i'r seiliau gwympo.

Newidiwyd yr hanes gryn dipyn gan Sieffre o Fynwy yn ei Historiae Regum Britanniae, lle rhoir yn enw Myrddin i'r bachgen yn y chwedl am y ddwy ddraig. Mae Emrys yn ymddangos yng ngwaith Sieffre hefyd, dan yr enw Aurelius Ambrosius, fel mab y Brenin Cystennin a brawd Uther Wledig (Uthr Bendragon).

Mewn llenyddiaeth ddiweddarach, mae Emrys Wledig yn un o'r cymeriadau yn y ddrama Buchedd Garmon gan Saunders Lewis.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru; gol. Meic Stephens. (Gwasg Prifysgol Cymru, 1986) ISBN 0-7083-0915-1

Nodiadau[golygu | golygu cod]

  1. Thomas Green (2008) Concepts of Arthur tt. 31-21