Celtiaid Ynysig

Oddi ar Wicipedia
Celtiaid Ynysig
Enghraifft o'r canlynolgrŵp o bobl Edit this on Wikidata
Prydain ac Iwerddon ar ddechrau hyd at oddeutu 500 OC, cyn sefydlu teyrnasoedd yr Eingl-Sacsoniaid.      Brythoniaid.      Pictiaid.      Goedeliaid.

Celtiaid brodorol o Ynysoedd Prydain a Llydaw oedd y Celtiaid Ynysig, pobl a siaradai yn yr ieithoedd Celtaidd Ynysol, sef y Gelteg Ynysig. Defnyddir y term yn bennaf am bobloedd Celtaidd yr ynysoedd hyd at yr Oesoedd Canol cynnar, gan gwmpasu Oes Haearn Iwerddon a Phrydain, Prydain Rufeinig a Phrydain is-Rufeinig. Roeddent yn cynnwys y Brythoniaid, y Pictiaid a'r Goedeliaid.

Un o'r prif nodweddion cyffredin rhwng y Celtiaid hyn oedd eu hiaith, a ymledodd ar hyd a lled yr ynysoedd yn ystod yr Oes Efydd neu'r Oes Haearn gynnar. Maent yn cynnwys dau brif grŵp: ieithoedd Brythonaidd yn y dwyrain a ieithoedd Goedelaidd yn y gorllewin. Er bod cofnodion o ieithoedd Celtaidd Cyfandirol o'r 6g CC, dim ond yn gynnar yn y mileniwm cyntaf OC y ceir tystiolaeth o'r ieithoedd Celtaidd Ynysol. Dilynodd y Celtiaid Ynysol grefydd Geltaidd Hynafol a oruchwylid gan y dderwyddon. Roedd gan rai o lwythau de Prydain gysylltiadau cryf â thir mawr Ewrop, yn enwedig Gâl a Belgica, ac roeddent yn bathu eu darnau arian eu hunain.

Gorchfygodd yr Ymerodraeth Rufeinig y rhan fwyaf o Ynysoedd Prydain yn y 1g OC, a daeth peth diwylliant Brythonaidd-Rufeinig i'r amlwg yn y de-ddwyrain. Parhaodd y Cymbriaid a'r Pictiaid yn y gogledd a'r Goedeliaid (Gwyddelod) y tu allan i'r ymerodraeth. Yn ystod diwedd rheolaeth y Rhufeiniaid ym Mhrydain yn y 5g, roedd esiamplau o aneddiadau Eingl-Sacsonaidd i'w cael yn nwyrain a de Prydain, a rhywfaint o anheddiadau Gwyddelig ar yr arfordir gorllewinol, gan gynnwys Ynys Môn. Yn ystod y cyfnod hwn, ymfudodd rhai o Frythoniaid i Armorica, a elwir heddiw yn 'Llydaw', lle daethant i ddominyddu'r wlad. Yn y cyfamser, daeth llawer o ogledd Ynysoedd Prydain (yr Alban) yn Aeleg ei hiaith.

Erbyn y 10g, roedd y Celtiaid Ynysol wedi esblygu'n ddau grwp ieithyddol:

Gwladfa Geltaidd Iwerddon ac Ynysoedd Prydain[golygu | golygu cod]

Archeoleg[golygu | golygu cod]

Mewn damcaniaethau hŷn, roedd dyfodiad y Celtiaid yn cyd-daro'n fras â dechrau ar Oes Haearn yr Ewrop. Ym 1946, cyhoeddodd yr ysgolhaig Celtaidd T. F. O'Rahilly ei fodel dylanwadol o hanes cynnar Iwerddon, a osododd bedair ton ar wahân o oresgynwyr Celtaidd, yn rhychwantu'r rhan fwyaf o Oes yr Haearn (700 i 100 CC). Fodd bynnag, roedd y dystiolaeth archeolegol yn gymysg oll i gyd. Dangosodd ymchwil diweddarach y gallai'r diwylliant fod wedi datblygu'n raddol ac yn barhaus rhwng y Celtiaid a'r poblogaethau brodorol. Yn yr un modd yn Iwerddon, ychydig o dystiolaeth archeolegol a ddarganfuwyd am grwpiau ymwthiol mawr o fewnfudwyr Celtaidd, sy'n awgrymu i archeolegwyr, megis Colin Renfrew, fod trigolion brodorol Oes yr Efydd hwyr yn amsugno dylanwadau ac iaith Geltaidd Ewrop dros y canrifoedd.

Yn y 1970au, poblogeiddiwyd "model parhad" gan Colin Burgess yn ei lyfr The Age of Stonehenge, a ddamcaniaethodd fod diwylliant Celtaidd Ynysoedd Prydain "wedi dod i'r amlwg" yn hytrach nag yn ganlyniad i oresgyniad enfawr, ac nad oedd y Celtiaid yn oresgynnwyr estron, ond yn ddisgynyddion ffigurau megis Bwasaethwr Amesbury, a oedd yn amlwg yn Gelt cyfandirol.

Mae'r dystiolaeth archeolegol yn dangos parhad diwylliannol sylweddol trwy fileniwm 1af CC,[1] gyda throshaen sylweddol o ddiwylliant La Tène Celtaidd hefyd o'r 4g CC ymlaen. Mae honiadau bod gwladwriaethau ar ffurf cyfandirol yn ymddangos yn ne Lloegr yn agos at ddiwedd y cyfnod, gan adlewyrchu o bosibl yn rhannol fewnfudo gan elitiau o wahanol daleithiau Gâl, megis rhai'r Belgica.[2] Dechreua tystiolaeth o gladdu cerbydau rhyfel yn Lloegr tua 300 CC ac fe'i cyfyngir yn bennaf i ddiwylliant Arras sy'n gysylltiedig â'r Parisii.

Ieithyddiaeth[golygu | golygu cod]

Gall olion ieithoedd cyn-Geltaidd aros yn enwau rhai nodweddion daearyddol, megis afonydd Clud, Tamar a Thafwys, y mae eu geirdarddiad yn tarddu oieithoedd cyn-Geltaidd.

Credir bod y rhan fwyaf o drigolion ynysoedd Iwerddon a Phrydain yn siarad ieithoedd Celtaidd erbyn tua'r 6g CC. Mae dadansoddiad ieithyddol ffylogenetig o 2003 yn rhoi oes y Geltaidd Ynysol gryn dipyn ynghynt, sef 2,900 o flynyddoedd cyn y presennol, neu ychydig yn gynharach nag Oes Haearn Ewrop.[3]

Geneteg[golygu | golygu cod]

Dangoswyd bod ymfudo yn chwarae rhan allweddol yn lledaeniad Diwylliant Bicer Gloch i Ynysoedd Prydain tua 2500 CC. Mae data genom gyfan o 400 o Ewropeaid Neolithig, Oes Copr a'r Oes Efydd (gan gynnwys >150 o genomau o Ynysoedd Prydain hynafol) wedi'u dadansoddi. Daeth tua 90% Ynysoedd Prydain yn ystod y Diwylliant Bicer Gloch, hy disodlwyd tua 90% o'r gronfa genynnau o fewn cyfnod o ganrif neu ddwy yn unig.[4]  ]

Dangosodd astudiaeth yn 2003 fod marcwyr genetig sy'n gysylltiedig ag enwau Gwyddelig yn Iwerddon a'r Alban hefyd yn gyffredin mewn rhannau o orllewin Cymru a Lloegr, ac yn debyg i farcwyr genetig y Basgiaid - ond yn wahanol iawn i'r Germaniaid.[5] Roedd y tebygrwydd hwn yn cefnogi canfyddiadau cynharach wrth awgrymu llinach enetig gyn-Geltaidd fawr, sy'n debygol o fynd yn ôl i anheddiad gwreiddiol Hen Oes y Cerrig Uchaf (y Paleolithig Uchaf).  Mae'r awduron yn awgrymu, felly, y gall diwylliant ac iaith Geltaidd fod wedi'u mewnforio i Brydain ar ddechrau'r Oes Haearn trwy gyswllt diwylliannol, nid "goresgyniadau torfol".  Canfu astudiaethau genetig diweddarach dystiolaeth bod rhai Celtiaid (o gyfnod La Tène) wedi ymfudo i Brydain ac ymlaen i ogledd-ddwyrain Iwerddon yn yr Oes Haearn Ddiweddar.[6]

Yn 2021, datgelodd astudiaeth archeogeneteg fawr ymfudiad i dde Prydain yn yr Oes Efydd, yn ystod y cyfnod o 500 mlynedd rhwng 1300 a 800 CC.[7] Roedd geneteg y newydd-ddyfodiaid yn deby iawn i drigolion Gâl (sef y llwythau Celtaidd yn Ffrainc, y Swistir a gogledd yr Eidal heddiw.)[7] Yn ystod 1000–875 CC, lledaenodd eu marciwr genetig yn gyflym trwy dde Ynysoedd Prydain,[8] ond nid gogledd Prydain.[7] Mae awduron yr astudiaeth yn disgrifio hyn fel "fector credadwy ar gyfer lledaeniad yr ieithoedd Celtaidd cynnar i Brydain".[7] Bu llawer llai o fewnfudo yn ystod yr Oes Haearn, felly mae’n debygol i Geltaidd gyrraedd Prydain cyn hynny. [7] Awgryma Barry Cunliffe fod cangen o’r Gelteg eisoes yn cael ei siarad ym Mhrydain, ac mai ymfudiad yr Oes Efydd a gyflwynodd y gangen Frythoneg.[9]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Barry Cunliffe: ‘A race apart: insularity and connectivity’, yn Proceedings of the Prehistoric Society, cyfr. 75, 2008, tt. 55–64, yn enw. 61.
  2. Koch, John (2005). Celtic Culture: A Historical Encyclopedia (yn Saesneg). ABL-CIO. tt. 197–198. ISBN 978-1-85109-440-0. Cyrchwyd 12 Mawrth 12, 2011. Check date values in: |access-date= (help)
  3. Russell D. Gray & Quentin D. Atkinson, "Language-tree divergence times support the Anatolian theory of Indo-European origin", Nature, 2003.
  4. Reich, David (21 Feb 2018). "The Beaker phenomenon and the genomic transformation of northwest Europe". Nature 555 (7695): 190–196. Bibcode 2018Natur.555..190O. doi:10.1038/nature25738. PMC 5973796. PMID 29466337. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=5973796.
  5. Capelli, Cristian (27 Mai 2003). "A Y Chromosome Census of the British Isles". Current Biology 13 (11): 979–984. arXiv:etal. doi:10.1016/S0960-9822(03)00373-7. PMID 12781138. http://www.ucl.ac.uk/tcga/tcgapdf/capelli-CB-03.pdf.
  6. McEvoy and Bradley, Brian P and Daniel G (2010). Celtic from the West Chapter 5: Irish Genetics and Celts. Oxbow Books, Oxford, UK. t. 117. ISBN 978-1-84217-410-4.
  7. 7.0 7.1 7.2 7.3 7.4 Patterson, N.; Isakov, M.; Booth, T. (2021). "Large-scale migration into Britain during the Middle to Late Bronze Age". Nature 601 (7894): 588–594. doi:10.1038/s41586-021-04287-4. PMC 8889665. PMID 34937049. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=8889665.
  8. "Ancient DNA study reveals large scale migrations into Bronze Age Britain" (yn Saesneg). University of York. 22 Rhagfyr 2021. Cyrchwyd 21 Ionawr 2022.
  9. "Ancient mass migration transformed Britons' DNA". BBC News. 22 Rhagfyr 2021. Cyrchwyd 21 Ionawr 2022.