Rhys Cadwaladr
Oddi ar Wicipedia
Roedd Rhys Cadwaladr (fl. 1666-1699) yn fardd, a aned yng Nghonwy.
Roedd yn fab i Rys Trefnant. Bu'n ficer Llanfairfechan (Sir Gaernarfon) am gyfnod.
Doedd o ddim yn fardd proffesiynol - roedd y Traddodiad Barddol wedi marw allan bron erbyn hynny - ond canai ar y mesurau caeth er ei ddifyrrwch ei hun. Canodd i aelodau o deulu'r Mostyniaid, un o deuluoedd pwysicaf Sir Gaernarfon a Sir Ddinbych, a chyfansoddodd hefyd nifer o gerddi cellwair i'w gyfaill Thomas Jones, yr almanaciwr o Amwythig.
Trosodd sawl darn o waith y bardd Lladin, Horas, a'r dramodydd Rhufeinig Seneca'r Ieuaf i'r Gymraeg.