Daniel Owen
| Daniel Owen | |
|---|---|
| Geni | Daniel Owen 20 Hydref 1836 Yr Wyddgrug, Sir Fflint |
| Marw | 22 Hydref 1895 (59 oed) |
| Galwedigaeth | Teiliwr |
| Cenedligrwydd | |
| Cyfnod ysgrifennu | 1881–1895 |
Awdur Cymreig oedd Daniel Owen (20 Hydref 1836 – 22 Hydref 1895). Roedd yn un o lenorion mwyaf blaengar y 19eg ganrif yn yr iaith Gymraeg a gofir fel un o arloeswyr mawr y nofel yn Gymraeg.
Cynnwys |
Bywgraffiad [golygu]
Ganwyd Owen yn yr Wyddgrug yn fab i'r glöwr Robert Owen. Bu farw ei dad a'i ddau frawd, James a Robert, ar 12 Mai 1938 mewn damwain pan fu llifogydd ym mhwll glo Argoed, gan adael Owen, ei fam, a thri o frodyr a chwiorydd eraill i ddibynnu ar elusen y plwyf am eu cynhaliaeth. Ni dderbyniodd unrhyw addysg ffurfiol, ond cydnabyddodd Owen ei ddyled i'r addysg a dderbyniodd yn yr Ysgol Sul.
Yn 12 oed, daeth Owen yn brentis i deiliwr, Angel Jones, a oedd yn un o hynafiaid y Methodistiaid Calfinaidd. Disgrifiodd Owen y brentisiaeth fel math o goleg, a dechreuodd ysgrifennu cerddi wedi iddo gael ei ddylanwadu gan un o'i gyd-weithwyr. Defnyddiodd Owen siop y teiliwr fel cyfle i drafod a dadlau gada'i gyd-weithwyr a'r cwsmeriaid, thema sy'n amlwg yn ei nofelau. Ymhlith pynciau'r trafodaethau oedd materion gwleidyddol a diwinyddol; a darllenwyd ar lafar o destunau amrywiol mewn Cymraeg a Saesneg gan gynnwys nofelau'r awduron Saesnig George Eliot a Walter Scott. Yr oedd Owen ac aelodau eraill o'i gylch yn barddoni hefyd, ac ymysg gweithiau llenyddol cynharaf yr awdur y mae amryw o gerddi a ysgrifennwyd yn ystod ei gyfnod yn brentis i Angel Jones. Adroddir hanes yr un math o addysg yn y nofel Rhys Lewis, fel y math o addysg a dderbyniodd y cymeriad 'Robyn y Sowldiwr'.
Bu Daniel Owen yn hyfforddi am gyfnod yng Ngholeg y Bala, ond ni chafodd ei ordeinio gan iddo orfod gadael ei astudiaethau pan briododd ei frawd Dafydd, gan adael Owen i gynnal ei chwiorydd a'i fam. Cafodd swydd yn ôl yn siop Angel Jones, lle bu'n gweithio fel teiliwr tan ddiwedd ei oes, yn gyntaf fel gweithiwr ond erbyn y diwedd fel perchennog.
Er nad oedd bellach yn bwriadu dod yn weinidog, parhaodd Owen i bregethu tan iddo orfod rhoi'r gorau i deithio oherwydd ei iechyd bregus. Yr oedd yn aelod yng nghapel Bethesda, o dan weinidogaeth y Parchedig Roger Edwards, a ysgogodd Owen i ddechrau ysgrifennu gan nad oedd bellach yn medru pregethu. Y canlyniad oedd Offrymau Neilltuaeth, gwaith rhyddiaith difrifol gyntaf yr awdur, sef stori neu nofel fer am ddewis blaenoriaid mewn capel. Perswadiodd Roger Edwards, a oedd ei hunan yn nofelydd, iddo ysgrifennu nofel i'w gyhoeddi fesul bennod yng nghyfnodolyn Y Drysorfa (sef cylchgrawn yr oedd Edwards yn ei olygu ar y pryd). Y Dreflan oedd y nofel honno, ac er nad yw'r nofel yn cael llawer o sylw heddiw yr oedd hi'n boblogaidd iawn yn ystod cyfnod Daniel Owen. Oherwydd poblogrwydd Y Dreflan perswadiwyd y nofelydd eto gan Edwards i ddechrau ail nofel yn syth. Rhys Lewis oedd y nofel honno, ac wedi ei gyhoeddi, sefydlwyd enw'r nofelydd fel ffigwr holl-bwysig yng Nghymru.
Dilynwyd Rhys Lewis gan ddwy nofel eto, Enoc Huws a Gwen Tomos a chyfres o straeon byrion sef Straeon y Pentan.
Yr oedd yn ddeifiol ei wawd o'r tueddiadau a welai mewn Anghydffurfiaeth yng Nghymru i fod yn ymbarchuso yn ystod ei gyfnod ef.
Etifeddiaeth [golygu]
Rhoddir Gwobr Goffa yn ei enw gan Yr Eisteddfod Genedlaethol ar gyfer nofel heb ei chyhoeddi.
Rhwng 2002 a 2006, darlledodd S4C y gyfres Treflan, yn seiliedig ar lyfrau Daniel Owen, gan ddilyn hanesion Rhys Lewis ac Enoc Huws' yn bennaf.
Llyfryddiaeth [golygu]
Nofelau [golygu]
- Y Dreflan (1881)
- Rhys Lewis (1885)
- Enoc Huws (1891)
- Gwen Tomos (1894)