Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Yr Eisteddfod Genedlaethol)
Neidio i: llywio, chwilio
Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Eisteddfodlogo.jpg

Sefydlwyd 1176[1]
Gwefan http://www.eisteddfod.org.uk/

Gŵyl ddiwylliannol bwysicaf Cymru yw Eisteddfod Genedlaethol Cymru, gyda chystadlu mewn llenyddiaeth, cerddoriaeth a drama yn elfen bwysig. Ymhlith y cystadlaethau pwysicaf mae cystadleuaeth am y Gadair am awdl, y Goron am bryddest a'r Fedal Ryddiaith am waith rhyddiaith. Ceir hefyd y Rhuban Glas i'r canwr unigol gorau a chyflwynir Medal Syr T.H. Parry-Williams ers 1975 i gydnabod gwasanaeth gwirfoddol nodedig ymhlith pobl ifanc. Ers 1952, trefnir a llywodraethir yr Eisteddfod gan Lys yr Eisteddfod Genedlaethol.

Cynnwys

Yr Eisteddfod ddoe a heddiw [golygu]

Er bod traddodiad yr eisteddfod yn ganrifoedd oed, ni chynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf tan 1861, yn Aberdâr. Daeth y gyfres flynyddol honno i ben oherwydd diffyg cyllid yn 1868. Yn 1880 sefydlwyd Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol a dan nawdd y gymdeithas hon cynhaliwyd Eisteddfod Merthyr Tudful yn 1881 a chynhaliwyd eisteddfod yn ddifwlch wedyn ar wahân i 1914 a 1940.[2]

Roedd Iolo Morganwg wedi sefydlu Gorsedd Beirdd Ynys Prydain yn 1792. Fel y tyfodd yr Eisteddfod Genedlaethol daeth yr orsedd i'w chysylltu fwy-fwy gyda hi, gan gychwyn gydag Eisteddfod Caerfyrddin 1819, nes datblygu yn rhan o seremonïau'r eisteddfod fwy neu lai fel y mae heddiw. Yr orsedd sydd yn gyfrifol am seremonïau cadeirio a choroni'r bardd yn ogystal â chyflwyno'r Fedal Ryddiaith. Ailwampiodd yr Archdderwydd Geraint Bowen tipyn ar y seremonïau, er enghraifft diddymu Seremoni'r Cymry Ar Wasgar' a dod â'r brodyr Celtaidd i mewn i rai o'r prif seremonïau. Mae aelodau'r orsedd yn rhannu'n dri grŵp gyda lliw gwahanol i wisg bob un.

Caiff yr Eisteddfod Genedlaethol ei chynnal bob blwyddyn yn ystod wythnos lawn gyntaf mis Awst, yn y de a'r gogledd bob yn ail.

Yn y gorffennol, roedd Saesneg yn rhan o'r gweithgareddau a chlywid hi hyd yn oed ar lwyfan yr Eisteddfod ei hun. Nododd y cyfansoddiad newydd ym 1952 mai iaith swyddogol yr eisteddfod oedd y Gymraeg yn unig, ac roedd Cynan yn flaenllaw yn y gwaith o gadw'r eisteddfod yn uniaith Gymraeg.

Ymhlith eisteddfodau eraill Cymru mae: Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, Eisteddfod Pantyfedwen, Eisteddfod Powys ac Eisteddfod Môn. Ceir hefyd nifer o eisteddfodau llai ledled Cymru, megis Eisteddfod Pwll-glas.

Prif wobrau'r eisteddfod [golygu]

Rhestr o Eisteddfodau Cenedlaethol [golygu]

19eg ganrif [golygu]

20fed ganrif [golygu]

21ain ganrif [golygu]

Gweler hefyd [golygu]

Cyfeiriadau [golygu]

  1. Hanes Eisteddfod Genedlaethol Cymru
  2. Melville Richards, 'Eisteddfod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg', yn Twf yr Eisteddfod Genedlaethol.
  3. Gwefan yr Eisteddfod
  4. Newyddion BBC am Eisteddfod 2015

Dolenni allanol [golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: