Mabinogi Iesu Grist

Oddi ar Wicipedia
Mabinogi Iesu Grist

Cyfieithiad neu drosiad Cymraeg Canol o'r testun crefyddol Lladin De Infantia Jesu Christi ("Ynglŷn â phlentyndod Iesu Grist") gan y Ffug Fathew yw Mabinogi Iesu Grist. Cyfansoddwyd y testun gwreiddiol tua'r 6g, yn ôl pob tebyg.

Mae'r testun Cymraeg cynharaf i'w gael yn llawysgrif Peniarth 14, sy'n dyddio o'r 14g ond ceir sawl fersiwn arall yn y llawysgrifau yn ogystal. Mae'r testun yn dechrau â'r geiriau Llyma (Dyma) Vabinogi Iessu Grist. Roedd yn destun poblogaidd iawn.

Testun apocryffaidd ydyw, un o nifer o destunau cyffelyb a gylchredai yn ystod yr Oesoedd Canol cyn i'r Beibl gymryd ei ffurf presennol. Mae'r stori'n adrodd hanes rhieni y Forwyn Fair, Anna a Joachim, oedd yn ddiblentyn am ugain mlynedd. Ganwyd Mair i Anna ar ôl ymweliad gan angel. Yna treuliodd hi 14 blynedd yn y Deml lle cafodd ei dewis yn wraig gan Ioseff. Ceir hanes y Geni a nifer o firaglau a wneid gan Iesu yn ei blentyndod, prif destun yr hanes. Mae rhai o'r straeon i'w cael yn y Beibl heddiw ond eraill yn wahanol iawn i'r fersiwn awdurdodedig o hanes Crist.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Golygwyd y testun yn wreiddiol gan Mary Williams yn Revue Celtique, xxxiii (1912), tud. 186-197. Ailolygwyd gan Dr Prydwyn O Piper yn ei draethawd PhD 'Mabinogi Iessu Grist: An Edition and Study of the Middle Welsh Translations of the Apocryphal Latin Pseudo-Matthaei Evangelium' (Prifysgol Harvard, 2001; copi yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth), gan gynnwys darnau ychwanegol o'r testunau o ffynonellau llawysgrifol nad oedd ar gael i Mary Williams.

Gweler hefyd:

  • D. Simon Evans, Medieval Religious Literature, cyfres Writers of Wales (Caerdydd, 1986), tud. 72-73.
  • Prydwyn O. Piper, 'Filling some lacunae in Mabinogi Iessu Grist', Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru 32 (2002), tud. 241-74.