Dyneiddiaeth

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio

Dyneiddiaeth neu Hiwmaniaeth yw’r gred bod dyn yn medru gwella ei hunan heb gymorth oruwchnaturiol a bod ganddo ddyletswydd i wneud hynny.

Mae gan ddyneiddiwr ffydd mewn adnoddau meddyliol dyn i ddod a gwybodaeth a dealltwriaeth i’r byd, ac i ddatrys y broblemau moesol ynghlyn a defnyddio’r gwybodaeth hwn. "Dyn yw mesur popeth" yw cyweirnod dyneiddiaeth. Ymagweddiad dyneiddiwr yw;- "Dylai dyn fod yn barchus i gyd-ddyn heb gyfrif dosbarth, hil na chrediniaeth."
Mae moesau sylfaenol dyneiddiwr yn cynnwys rhyddid, cyflawnder a goddefgarwch.


Taflen Cynnwys

[golygu] Dyneiddiaeth yn y gorffennol

Roedd 'dyneiddiaeth' neu 'hiwmaniaeth' yn cyfeirio yn y fan gyntaf, at system o addysg wedi sylfaeni ar ddiwylliant clasurol Groeg a Lladin, ac yn yr ail fan, at yr ymddygiadau rymus a oedd yn mynd gyda diwedd y canol oesoedd, ac wedi eu cynrychioli hefyd mewn gwahanol gyfnodau gyda’r Dadeni, y Diwygiad, y Gwrthdro Diwydiannol a’r brwydr am weriniaeth. Roedd rhain yn cynnwys rhyddhad o awdurdod eglwysig a rhyddhad meddyliol.


[golygu] Dyneiddiaeth yn y presennol

Heddiw mae’r gair 'dyneiddiaeth' neu 'hiwmaniaeth' yn cyfeirio at y syniad bod dyn yn medru buw bywyd gonest ac ystyriol heb ddilyn unrhyw grefydd ffurfiol.


[golygu] Dyneiddiaeth grefyddol

Fe fydd y syniad bod dyn yn medru buw bywyd moesol heb fod yn grefyddol ddim yn golygu bod dyneiddiwr heb grefydd o angenrheidrwydd. Mae dyneiddwyr grefyddol yn sylweddoli bod rhywun yn foesol gan fod moesoldeb yn ei natur, a nid gan ei fod yn ofni’r canlyniadau, e.e. digofiant Duw.


[golygu] Dyneiddiaeth anghrefyddol

neu dyneiddiaeth secwlar

Dydy dyneiddwyr ahghrefyddol ddim yn credu mewn bodolaeth Duw na duwiau nag unrhyw bethau ysbrydol, oruwchnaturiol neu ofergoelus. Mae'r rhan fwyaf o ddyneiddwyr anghrefyddol yn anffyddwyr ac mae rhai yn agnostig. Er mwyn gwneud penderfyniadau moesol fe fydd y dyneiddiwr yn defnyddio deall beirniadol yn hytrach na dilyn pendantrwydd awdurdodol grefyddol.

Offer personol