Cylch y Morrisiaid

Oddi ar Wicipedia

Cylch llenyddol a dyfodd yn Ynys Môn yn y 18g, gydag aelodau eraill yn cysylltu trwy ohebiaeth oedd Cylch y Morrisiaid. Canolbwynt y cylch oedd teulu Morysiaid Môn o Bentrerianell, yn enwedig Lewis Morris (1701-1765), William Morris (1705-1763) a *Richard Morris (1703-1779).

Ymhlith y llenorion amlwg eraill oedd yn gysylltiedig a'r cylch, roedd Goronwy Owen ac Evan Evans (Ieuan Fardd). Cyhoeddwyd rhai o gerddi aelodau'r cylch yn y gyfrol Diddanwch Teuluaidd (1763) a olygwyd gan Huw Jones o Langwm. Un o amcanion y cylch oedd cyhoeddi hen lenyddiaeth Gymraeg, a chyhoeddwyd Some Specimens of the Poetry of the Antient Welsh Bards gan olygyddiaeth Ieuan Fardd yn 1764.

Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.