Afan Ferddig
Oddi ar Wicipedia
Bardd Cymraeg cynnar oedd Afan Ferddig (bl. 7fed ganrif efallai). Ystyr y gair 'Berddig' yw "bardd bychan" neu "jester"; ceir cyfeiriad arall at fardd o'r 11fed ganrif a elwir Berddig, bardd yn llys Gruffudd ap Llywelyn yng Ngwent.[1].
Ychydig sy'n hysbys amdano. Mae rhai ysgolheigion yn credu mai ef yw awdur y gerdd 'Moliant Cadwallon'. Yn ôl un o Drioedd Ynys Prydain canai Afan i'r brenin Cadwallon ap Cadfan o Wynedd. Mae'n cael ei alw'n un o 'Dri bardd coch eu gwaywffyn Ynys Prydain':
- Tri Gwaywrudd Beirdd Ynys Prydain:
- Tristfardd bardd Urien,
- A Dygynnelw bardd Owain ab Urien,
- Ac Afan Ferddig bardd Cadwallon mab Cadfan.[2]
Roedd y Gogynfeirdd yn ei barchu fel bardd mawr, e.e. Cynddelw Brydydd Mawr sy'n dweud ei bod yn arferol ganddo ganu yn null Afan Ferddig:
- Gnawd canaf i foliant fal Afan Ferddig.[3]
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru d.g. berddig.
- ↑ Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydain (Caerdydd, 1978).
- ↑ Dyfynnir gan Rachel Bromwich yn Trioedd Ynys Prydain (Caerdydd, 1978). Orgraff ddiweddar.