Yn y lhyvyr hwnn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Clawr y llyfr.

Yn y lhyvyr hwnn, gan Syr John Price (1502 - 1555), oedd y llyfr Cymraeg argraffedig cyntaf.

Yn ôl y dyddiad ar y ddalen deitl, fe'i gyhoeddwyd yn Llundain ym 1546, ond mai lle i amau na ddaeth o'r wasg tan yn y gynnar ym 1547 (cyn 25 Mawrth). Mae'r ansicrwydd yma am y dyddiad cyhoeddi wedi arwain rhai ysgolheigion, fel Ifor Williams, i ddadlau dros osod Oll synnwyr pen Kembero ygyd gan William Salesbury o flaen y rhestr, am i'r llyfr hwnnw ddod allan ym 1547, ond ar y cyfan tueddir i dderbyn llyfr Price fel y llyfr Cymraeg cyntaf i gael ei gyhoeddi.

Nodir y cynnwys ar ddalen deitl y llyfr:

Yn y lhyvyr hwnn y traethir. / Gwyddor kymraeg. / Kalandyr. / Y gredo, neu bynkeu yr ffydd gatholig. / Y pader, ney weddi yr arglwydd. / Y deng air deddyf. / Saith Rinwedd yr egglwys. / Y kampeu arveradwy ar Gwydieu gochladwy ae keingeu. / M.D.XLVI.

Yn y llyfr hwn y traethir / Gwyddor Cymraeg / Calendr / Y gredo, neu bynciau'r ffydd Gatholig / Y pader, neu Weddi'r Arglwydd / Y dengair Deddf / Saith rinwedd yr eglwys / Y campau arferadwy a'r gwydiau gocheladwy a'u ceingau[1]

Yn ogystal â'r deunydd uchod, sef yr wyddor Gymraeg, y Gredo a'r Pader Gatholig a.y.y.b., ceir cyfarwyddyd ynglŷn â darllen Cymraeg a math o galendr tymhorol ar gyfer ffermwyr.

Cyfeiriadau[golygu]

Darllen pellach[golygu]