Wlpan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cwrs Cymraeg i ddechreuwyr yw Wlpan. Fe ddaw o'r gair Hebraeg am stiwdio (אולפן, wlpán), gan fod cyrsiau Hebraeg yn Israel wedi bod yn ysbrydoliaeth i'r cwrs. Elwyn Hughes oedd un o arloeswyr y cwrs, a threfnir gwersi yn defnyddio'r dull hwn gan gan Ganolfannau Cymraeg i Oedolion ledled Cymru. Mae'r pwyslais ar Gymraeg llafar, a'r bwriad yw dysgu sylfeini'r iaith mewn amser byr. Mae gwahanol fersiynau o'r cwrs yn adlewyrchu tafodieithoedd gwahanol ardaloedd yng Nghymru.[1]

Cyfeiriadau[golygu]

  1.  Coleg y Brifysgol, Bangor. Beth yw Cwrs WLPAN?. Gwefan Prifysgol Bangor. Adalwyd ar 3 Mai 2012.

Dolenni allanol[golygu]

Tafod-y-ddraig-coch-ar-wyn.svg Eginyn erthygl sydd uchod am y Gymraeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.