Totalitariaeth
Oddi ar Wicipedia
System wleidyddol yw totalitariaeth lle nad yw'r wladwriaeth, sydd gan amlaf o dan berson, carfan, neu ddosbarth unigol, yn cydnabod unrhyw gyfyngiadau i'w awdurdod ac yn ceisio rheoli pob agwedd o fywyd cyhoeddus a phreifat pan fo'n bosib. Gan amlaf nodweddir totalitariaeth gan gyfuniad o awdurdodaeth ac ideoleg.
Mae llywodraethau totalitaraidd yn aros mewn grym trwy bropaganda a ledaenir gan gyfryngau a reolir gan y wladwriaeth, un blaid a nodir yn aml gan gwlt personoliaeth, rheolaeth dros yr economi, rheolaeth dros fynegiant a chyfyngiant arno, gwyliadwriaeth dorfol o'r boblogaeth, a defnydd o derfysgaeth wladwriaethol ar raddfa eang.