Gwladwriaeth les

Oddi ar Wicipedia

Gwladwriaeth les yw gwladwriaeth sydd yn darparu gwasanaethau i sicrhau lles ei dinasyddion, yn hytrach na dibynnu ar y farchnad i ddarparu'r gwasanaethau hyn. Defnyddir trethi i ariannu gwasanaethau fel iechyd (weithiau trwy system iechyd cenedlaethol, er enghraifft y GIG ym Mhrydain) ac addysg, cynlluniau pensiwn gwladwriaethol neu i roi arian yn uniongyrchol i ddinasyddion trwy fuddiadau lles.

Otto von Bismarck yn Almaen y 19g greodd y wladwriaeth les modern gyntaf a oedd yn darparu cynlluniau pensiwn ac iawndaliadau damwain cyfyngedig i weithwyr. Gweinyddiaethau Clement Attlee creodd wladwriaeth les fodern y Deyrnas Unedig yn 1948 pan sefydlwyd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a system o daliadau lles, er dechreuwyd bensiynau gwladwriaethol yn 1908.

Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.