Cyfraith

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Rheolau swyddogol yw cyfraith, neu y gyfraith, sydd i'w darganfod mewn cyfansoddiadau a deddfwriaethau, a ddefnyddir i lywodraethu cymdeithas ac i reoli ymddygiadau ei haelodau. Yng nghymdeithasau modern, bu corff awdurdodedig megis senedd neu lys yn gwneud y gyfraith. Caiff ei chefnogi gan awdurdod y wladwriaeth, sydd yn gorfodi'r gyfraith trwy gyfrwng cosbau addas (gyda chymorth sefydliadau fel yr heddlu).

Cyfraith sifil[golygu]

Wiki letter w.svg   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Cyfraith droseddol[golygu]

Wiki letter w.svg   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Cyfraith ryngwladol[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Cyfraith ryngwladol

Wiki letter w.svg   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Cyfraith Cymru[golygu]

Llysoedd[golygu]

Y Llysoedd Barn Brenhinol sy'n delio gyda'r gyfraith droseddol a sifil.[1]

Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig yw goruchaf lys y DU gyfan (ers 2009) ar gyfer apeliadau cyfraith sifil. Y mae ei awdurdod yn gyfyngedig i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.[2]

Llys Cyfiawnder Ewrop yw llys rhynglywodraethol yr Undeb Ewropeaidd (UE) â'i bencadlys yn Lwcsembwrg.

Datblygiad Cyfraith Cymru[golygu]

Cyfraith Gyfoes Cymru yw'r term swyddogol am y drefn gyfreithiol ers 1 Ebrill 2007 sy'n caniatau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru greu deddfau yng Nghymru.[3]

Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru. Pasiwyd mesur i ddatgysylltu'r eglwys yn San Steffan yn 1914 ond ni ddaeth i rym tan 1920 oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf.

Llys y Sesiwn Fawr oedd y Llys Droseddol dros Gymru rhwng pasio ail Ddeddf Uno 1542 a diddymiad y llys yn 1830.[4]

Roedd Deddfau Uno 1536 a 1543 yn ddwy ddeddf i uno Cymru'n wleidyddol â Lloegr ac i ddisodli'r iaith Gymraeg o unrhyw rôl swyddogol.

Casgliad o hen gyfreithiau yw Cyfraith Hywel a sefydlwyd yn y 10fed ganrif. Daeth cyfreithwyr ynghyd yn Hendy-gwyn ar Dâf tua 945 i gysoni, diwygio, dileu a chyhoeddi y cyfreithiau.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Robyn Lewis Termau cyfraith = Welsh legal terms (Llandysul: Gwasg Gomer, 1972)
  • Robyn Lewis Geiriadur y gyfraith : Saesneg-Cymraeg = The Legal dictionary : English-Welsh (Llandysul: Gwasg Gomer, 1992) ISBN 0863835341
  • Robyn Lewis Cyfiawnder dwyieithog? (Golwg ar yr ieithoedd Cymraeg a Saesneg yn Llysoedd Ynadon Cymru) (Llandysul: Gwasg Gomer, 1998) ISBN 1859025498
  • Robyn Lewis Geiriadur newydd y gyfraith = The new legal dictionary (Llandysul : Gomer, 2003) ISBN 1843231018
  • K.O. Morgan, Freedom or Sacrilege? (1966)
  • David Walker (gol.), A History of the Church in Wales (1976)
  • Thomas Glyn Watkin The Legal History of Wales (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2007) ISBN 9780708320648

Cyfeiriadau[golygu]

  1.  Y Llysoedd Barn Brenhinol. Gwasanaeth Llysoedd ei Mawrhydi. Adalwyd ar 17 Chwefror 2010.
  2.  Y Goruchaf Lys. Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig. Adalwyd ar 17 Chwefror 2010.
  3.  Deddfwriaeth. Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Adalwyd ar 17 Chwefror 2010.
  4.  Wales and the Law, c.1500-1800: The Court of Great Sessions in Wales 1543-1830. Early Modern Resources. Adalwyd ar 17 Chwefror 2010.

Dolenni allanol[golygu]

Law template.png Eginyn erthygl sydd uchod am y gyfraith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.


Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am cyfraith
yn Wiciadur.