Strasbourg
Oddi ar Wicipedia
Prifddinas Alsace (a'r département Bas-Rhin) yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc yw Strasbourg (Ffrangeg; Straßburg yn Almaeneg). Mae ar lan Afon Ill ac mae tua 250,000 o bobl yn byw yn y dref.
Mae'r dref yn ganolfan diwydiant a pheirianneg pwysig iawn. Mae pencadlys Cyngor Ewrop yn y dref yn ogystal â Llys Hawliau Dynol Ewrop a Senedd Ewrop.
Adeiladau a chofadeiladau [golygu]
- École internationale des Pontonniers
- Eglwys gadeiriol
- Eglwys Sainte-Madeleine
- Hôtel des Deux-Ponts
- Maison Kammerzell
- Palais des Fêtes
Enwogion [golygu]
- Gottfried von Strassburg (m. 1210), awdur
- Marie Tussaud (1761-1850), cerflunydd
- Gustave Doré (1832-1883), arlunydd