Saarland
Oddi ar Wicipedia
Un o daleithiau ffederal yr Almaen yw Saarland. Saif yn ne-orllewin y wlad, yn ffinio ar dalaith Rheinland-Pfalz ac ar Ffrainc a Luxembourg. Roedd y boblogaeth yn 2007 yn 1,036,598. Prifddinas y dalaith yw Saarbrücken.
Mae'r dalaith yn cynnwys rhan o fynyddoedd yr Hunsrück. Y copa uchaf yw'r Dollberg (695 medr). Yr afon bwysicaf yw afon Saar, sy'n rhoi ei henw i'r dalaith.
| Taleithiau ffederal yr Almaen | |
|---|---|
| Baden-Württemberg | Bafaria | Berlin | Brandenburg | Bremen | Hamburg | Hessen | Mecklenburg-Vorpommern | Niedersachsen | Nordrhein-Westfalen | Rheinland-Pfalz | Saarland | Sachsen | Sachsen-Anhalt | Schleswig-Holstein | Thüringen | |