Diocletian

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gaius Aurelius Valerius Diocletianus
Ymerawdwr Rhufain
Diocletian
Dyddiad Geni tua 22 Rhagfyr 245 O.C.
Man Geni Dalmatia
Dyddiad Marwolaeth 3 Rhagfyr 311[1]
Man Marwolaeth Spalatum (Split)

Diocletian (Lladin: Gaius Aurelius Valerius Diocletianus) (c. 2453 Rhagfyr 311), oedd ymerawdwr Rhufain o'r 20 Tachwedd 284 hyd 1 Mai 305). Yn ystod ei gyfnod fel ymerawdwr creodd y Tetrarchiaeth.

Ganed Diocletian yn Dalmatia o deulu distadl. Dywed rhai fod ei dad yn gaethwas wedi ei ryddhau, o Illyria. Ei enw gwreiddiol oedd Diocles (Διοκλής). Ymunodd a'r fyddin a threuliodd ei flynyddoedd cynnar mewn ymgyrchoedd parhaus ar ffin Afon Donaw, yng Ngâl ac yn ernyn y Persiaid. O dan yr ymerodron Aurelian a Probus dringodd trwy'r rhengoedd nes dod yn bennaeth gwarchodlu personol yr ymerawdwr Numerian yn ystod ei ymgyrch yn erbyn y Parthiaid.

Pan laddwyd Numerian, cyhoeddwyd Diocletian yn ymerawdwr gan y milwyr ar 20 Tachwedd 284 yn ninas Nicomedia. Dechreuodd ymgyrch yn erbyn cyd-ymerawdwr Numerian, ei frawd Carinus, ac ar ôl ymladd yn Moesia enillodd Diocletian y fuddugoliaeth. Enwodd gymrawd, Maximinus fel "Cesar" a'i gyrru i ddelio a gwrthryfel y Bagaudae. Pan ddychwelodd Maximinus yn llwyddiannus, gwnaeth Diocletian ef yn gyd-ymerawdwr yn 286.

Daeth Diocletian yn ymerawdwr ar ddiwedd y cyfnod a elwir yn argyfwng y drydedd ganrif. Yn y cyfnod yma bu 19 o ymerodron mewn cyfnod o 50 mlynedd, llawer ond yn teyrnasu am ychydig fisoedd. Gwnaeth Diocletian newidiadau mawr yn nhrefn rheoli'r ymerodraeth. Ceisiodd adfywio'r economi a rhannodd yr ymerodraeth yn 96 talaith oedd wedi eu rhannu'n 12 rhanbarth diocesis. Ceisiodd hefyd adfywio hen grefydd Rhufain, a bu llawer o erlid ar y Cristionogion yn ystod ei deurnasiad.

Y newid pwysicaf a wnaed gan Diocletian oedd dechrau'r Tetrarchiaeth, oedd yn rhannu'r ymerodraeth yn bedwar. Yn rheoli'r rhannau hyn yr oedd dau "Augustus", sef Diocletian ei hun a Maximinus, a dau "Cesar", Galerius a Constantius Chlorus. Yr oedd Diocletian, fel Augustus y dwyrain, yn gyfrifol am Thracia, Asia a'r Aifft; Galerius yn gyfrifol am y Balcanau heblaw Thracia, Maximinus fel Augustus y gorllewin yn rheoli Italia, Hispania ac Affrica, a'r Cesar Constantius Chlorus yn gyfrifol am Gâl a Phrydain. Yr oedd pob Augustus i fod i ymddeol ar ôl 20 mlynedd, gyda'r ddau Gesar yn dod yn Augustus yn eu lle.

Ar 1 Mai 305 ymddeolodd Dioclecian a Maximianus yn ôl y cynllun; y tro cyntaf i ymerawdwr Rhufeinig ymddeol yn wirfoddol. Yr oedd Diocletian wedi adeiladu palas iddo'i hun yn Spalatum (Split heddiw) yn Dalmatia. Dywedir ei fod yn ei ddifyrru ei hun ym ystod ei ymddeoliad trwy dyfu bresych. Bu farw yn ei blasdy yn y flwyddyn 313.

Ffynnonellau[golygu]

  1. Barnes, Timothy D. Constantine and Eusebius. Cambridge, MA: Harvard University Press, 1981. ISBN 978-0-674-16531-1 (Saesneg)
O'i flaen :
Carinus a Numerian
Ymerodron Rhufain
Diocletian

gyda Maximianus
Olynydd :
Galerius a Constantius Chlorus