Kliment Ohridski

Oddi ar Wicipedia
Kliment Ohridski
Ganwydc. 840 Edit this on Wikidata
yr Ymerodraeth Fysantaidd Edit this on Wikidata
Bu farw27 Gorffennaf 916 Edit this on Wikidata
Bulgarian Empire Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFirst Bulgarian Empire Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, cenhadwr Edit this on Wikidata
Swyddesgob Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl27 Gorffennaf, 25 Tachwedd Edit this on Wikidata
Delw o Kliment Ohridski

Archesgob cyntaf Bwlgaria ac ysgolhaig disglair oedd Sant Kliment Ohridski (tua 84027 Gorffennaf 916). Fel disgybl i Sant Cyril a Sant Methodius, cymerodd ran yn y genhadaeth i ddwyn Cristnogaeth i Moravia yn yr 860au. Gorfu ffoi oddi yno, ar ôl adeg yn y carchar, yn 885 neu 886, pryd chwalwyd gweithgareddau'r clerigwyr Slafonaidd gan yr eglwyswyr Almaenig yno. Gyda Naum Preslavski, cyrhaeddodd brifddinas Bwlgaria, Pliska, lle y'i croesawyd gan Boris I, a'i cefnogodd i addysgu clerigwyr newydd Bwlgaraidd. Hybodd ddiwylliant Bwlgaria drwy gyflwyno'r iaith Slafoneg fel iaith litwrgi'r eglwys (yn lle'r Roeg) a thrwy sefydlu dwy ysgol lenyddol yn defnyddio'r iaith yn Pliska ac yn Ohrid.

Fe'i hordeiniwyd fel archesgob Drembica yn 893, wedyn fel archesgob Ohrid. Ysgrifennodd nifer o destunau pwysig mewn Slafoneg Eglwysig Fwlgaraidd, gan gynnwys un o fucheddau Sant Cyril a Sant Methodius. Ar ôl ei farwolaeth yn 916, fe'i claddwyd yn Eglwys Pantaleimon ger Ohrid. Heddiw mae'r prifysgolion yn Sofia a Bitola yn dwyn ei enw.